Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio ger siop enwog Harrods yn Llundain am gyfres o droseddau’n amrywio o gymryd rhan mewn ffrwgwd i dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Fe ddigwyddodd wrth i dorf fawr o bobol geisio cael mynediad i’r siop ar ôl iddi agor ei drysau ar y penwythnos cyntaf ers i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Roedd cannoedd o bobol y tu allan i’r siop brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5) ac roedd nifer sylweddol o bobol yn cwyno nad oedd llawer ohonyn nhw’n gwisgo mygydau nac yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Cafodd Heddlu Llundain eu galw am oddeutu 1 o’r gloch y prynhawn, a chafodd pedwar o bobol eu harestio.

Cafodd dau eu harestio am eu rhan mewn ffrwgwd, un am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws, ac un arall am drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ac am dorri rheolau’r coronafeirws.

Ond fe wnaeth cannoedd yn rhagor o bobol ymgynnull yno eto yn ddiweddarach yn ystod y dydd.

Dydy Harrod’s ddim wedi ymateb i’r digwyddiad, lle’r oedd pobol i’w gweld yn dawnsio i gerddoriaeth cerddorion stryd yn Oxford Street ac yn yfed alcohol.

Roedd torfeydd mawr hefyd yn Covent Garden.

Ffair Nadolig yn Nottingham

Yn y cyfamser, roedd golygfeydd tebyg mewn ffair Nadolig yn Nottingham yng nghanolbarth Lloegr.

Roedd nifer o drigolion yn feirniadol o’r sefyllfa, gyda rhai yn gofyn lle’r oedd y cyfyngiadau’n cael eu gweithredu.

Dywedodd un arall fod yr heddlu yno er mwyn gwarchod pobol rhag ymosodiadau brawychol ond nad oedden nhw’n gorfodi pobol i ddilyn cyfyngiadau’r coronafeirws nac yn “gwarchod ysbytai rhag y cynnydd mewn cleifion Covid”.

Dydy’r heddlu, y Cyngor Sir na threfnwyr y farchnad ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.