Mae’r sylwebydd Peter Alliss, oedd yn cael ei adnabod fel “llais golff”, wedi marw’n 89 oed.
Yn golffiwr o fri, fe chwaraeodd e i dîm Prydain yng Nghwpan Ryder wyth gwaith, ac fe enillodd e ddegau o gystadlaethau yn ystod ei yrfa ar y cwrs golff.
Cafodd ei eni yn ninas Berlin yn yr Almaen, lle’r oedd ei dad hefyd yn golffiwr.
Fe adawodd yr ysgol yn 14 oed i weithio yng nghlwb ei dad yn Swydd Dorset, gan ddod yn chwaraewr proffesiynol ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Ar ôl cyfnod yn yr Awyrlu rhwng 1949 a 1951, fe ddychwelodd i’r cwrs golff gan orffen yn nawfed yn y Bencampwriaeth Agored (yr ‘Open’) yn 1953.
Fe orffennodd e ymhlith y deg uchaf yn y gystadleuaeth bum gwaith yn ystod ei yrfa.
Cafodd ei ddewis i chwarae yng Nghwpan Ryder yn 1953, gan golli yn y senglau yn erbyn Jim Turnesa wrth i Ewrop golli o un pwynt yn Wentworth.
Gyrfa fel sylwebydd
Ond mae’n fwyaf adnabyddus fel sylwebydd, ac fe ddaeth ei gyfle mawr pan gafodd ei glywed gan Ray Lakeland o’r BBC yn siarad â ffrind ar hediad o Iwerddon yn 1960.
Roedd e’n sylwebydd ar y Bencampwriaeth Agored yn Birkdale y flwyddyn ganlynol, gan orffen yn wythfed yn y gystadleuaeth fel chwaraewr hefyd.
Cafodd ei ddewis yn 1964 i roi gwersi golff i’r actor Sean Connery cyn iddo orfod chwarae yn y ffilm James Bond ‘Goldfinger’ y flwyddyn honno.
Daeth yn brif sylwebydd golff y BBC yn 1978, ac fe fyddai wedi dathlu 60 mlynedd fel sylwebydd y flwyddyn nesaf.
Fis diwethaf, roedd e’n sylwebydd ar gystadleuaeth y Meistri (y ‘Masters’) o’i gartref, yn rhannol oherwydd y coronafeirws ond hefyd yn sgil ei salwch ei hun.
Teyrngedau
Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i Peter Alliss ar ôl i’r Daith Ewropeaidd (European Tour) gyhoeddi’r newyddion am ei farwolaeth.
“Rydym yn drist iawn o glywed am golli Peter Allis, un o fawrion go iawn y byd golff,” meddai’r Daith mewn datganiad.
“Fe adawodd Peter farc annileadwy ar bopeth wnaeth e o fewn ein gêm, ond yn enwedig fel chwaraewr ac fel darlledwr, ac mae’n gadael gwaddol eithriadol.
“Mae ein meddyliau gyda’i wraig Jackie a’r teulu Alliss.”
Mae’r BBC hefyd wedi talu teyrnged iddo.
“Gyda thristwch mawr, rydyn ni’n cyhoeddi marwolaeth Peter Alliss, un o fawrion golff a darlledu,” meddai’r Gorfforaeth.
“Roedd marwolaeth Peter yn annisgwyl ond yn dawel.
“Roedd Peter yn ŵr, tad a thad-cu ffyddlon ac mae ei deulu’n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon.”
Ychwanegodd Barbara Slater, Cyfarwyddwr Chwaraeon y BBC, mai “Peter oedd llais golff”.
“Roedd e’n feistr llwyr ar ei grefft a chanddo’r gallu unigryw i ddal eiliad gydag ymadrodd hudolus na allai neb ei efelychu,” meddai.
“Fe aeth y tu hwnt i’w gamp fel un o ddarlledwyr mwyaf ei genhedlaeth.
“Bydd colled ofnadwy ar ei ôl, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr ar yr adeg drist iawn hon.”
Dywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC nad oedd “neb yn adrodd hanes golff fel Peter Alliss”.
“Fe ddaliodd e ddrama golff â mewnwelediad, doethineb a dynoliaeth,” meddai.
“Roedd e’n sylwebydd chwedlonol a ddaeth â’r gêm at filiynau ohonom.”