Mae chwaraewyr tîm rygbi Awstralia wedi ymateb yn bositif ar ôl i fersiwn o’r anthem genedlaethol ‘Advance Australia Fair’ gael ei chanu yn yr iaith frodorol Eora cyn eu gêm yn erbyn yr Ariannin ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 6).

Perfformiodd y gantores ifanc Olivia Fox yr anthem yn yr iaith cyn y fersiwn fwy adnabyddus yn Saesneg wrth i’r tîm cenedlaethol herio’r Ariannin yn Sydney mewn gêm wnaeth orffen yn gyfartal 16-16 yn y Bencampwriaeth Rygbi.

Fe fu’r chwaraewyr i gyd yn dysgu’r geiriau drwy gydol yr wythnos yn barod i’w chyd-ganu ar y cae.

Yn ôl eu capten Michael Hooper, roedd y chwaraewyr yn falch o fod y tîm cyntaf i’w pherfformio, wrth iddyn nhw hefyd wisgo crysau newydd i ddathlu lleiafrifoedd brodorol y wlad.

“Roedden ni’n ymarfer yn ystod yr wythnos ac yn ddiau, roedd ein bois yn falch o gael y cyfle i’w wneud e,” meddai.

“Dw i’n credu ei bod yn swnio’n eitha’ da hefyd.

“Roedd gwisgo’r crys brodorol a’i chanu hi yn iaith yr Aborijini ac yna yn Saesneg yn wych ac roedd yn wych cael bod yn rhan ohono.”

 

A fydd hi’n cael ei chanu’n rheolaidd o hyn ymlaen?

Yn dilyn y gêm ddoe, mae lle i gredu bod Rugby Australia, undeb rygbi’r wlad, yn ystyried canu’r anthem cyn holl gemau Awstralia o hyn ymlaen.

Yn ôl James O’Connor, un o’r chwaraewyr, fe fyddai’n cefnogi hynny “gant y cant”.

“Mae’r Aborijini fel pobol yn un o’r gwareiddiadau hynaf ac mae’n rhan ohonom ni,” meddai.

Ac mae’n dweud bod yr hyfforddwr Dave Rennie, sy’n hanu o Ynysoedd Cook, yn haeddu cryn glod am ddod â diwylliant newydd i’r garfan ar ôl cael ei benodi ym mis Mehefin.

“Rhan enfawr o’r hyn mae Dave wedi dod â fe i ni yw ein bod ni’n dychwelyd i’n gwreiddiau,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn gynhwysol.

“Mae gyda ni gynifer o genhedloedd o fewn y garfan.

“Rydyn ni wedi canu gryn dipyn.

“Yn llythrennol, rydyn ni wedi tynnu’r garfan ynghyd drwy gyd-ganu cân o Tonga, cân o Ffiji, cân o Samoa, cân o Ynysoedd Cook, cân y Maori.

“A nawr mae gyda ni un yr Aborijini ac roedden ni’n gallu ei theimlo hi’r wythnos hon ac fe wnaethon ni ymdrech enfawr.

“Doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yn dod tan ddydd Llun.

“Fe wnaethon ni dreulio cryn dipyn o amser yn dysgu’r geiriau a phrynu i mewn iddi oherwydd rydyn ni’n teimlo ei bod yn rhan fawr o’n hanes a’n diwylliant ac rydyn ni am fod yn gynrychiolwyr.”