Mae’r Ffrancwr Sébastien Ogier wedi ennill Pencampwriaeth Ralio’r Byd am y seithfed tro mewn wyth mlynedd, ar ôl i obeithion y Cymro Elfyn Evans ddod i ben i bob pwrpas ym Monza yn yr Eidal ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 6).
Roedd gan y Cymro Cymraeg o Ddolgellau flaenoriaeth o 14 pwynt cyn y rownd olaf ond fe ddaeth e oddi ar y ffordd mewn tywydd garw.
Aeth Ogier yn ei flaen i gipio’r rali o 13.9 eiliad oddi ar y pencampwr Ott Tanak, ac roedd Dani Sordo, sydd ar dîm Hyundai gyda Tanak, 1.4 eiliad y tu ôl iddo yntau yn y trydydd safle.