Mae teulu Roald Dahl wedi ymddiheuro am ei sylwadau gwrth-Semitaidd yn y gorffennol.

Mae’r awdur o Gaerdydd ymhlith yr awduron plant mwyaf poblogaidd erioed, gyda ffefrynnau fel Matilda, The BFG, The Witches a Charlie And The Chocolate Factory.

Bu farw’n 74 oed yn 1990.

Ond fe fu ei sylwadau am Iddewon yn gysgod tros ei boblogrwydd fel awdur ers rhai blynyddoedd.

Fe ddywedodd wrth y New Statesman yn 1983 fod yna “rinwedd yng nghymeriad yr Iddewon sy’n achosi drwgdeimlad, efallai ei fod yn rhyw fath o ddiffyg haelioni tuag at y rhai nad ydyn nhw’n Iddewon”.

“Hynny yw, mae yna reswm o hyd pan fod gwrth-unrhyw beth yn codi’i ben yn rhywle,” meddai wedyn.

“Doedd cythraul fel Hitler hyd yn oed ddim jyst yn pigo arnyn nhw heb reswm.”

Datganiad y teulu

Mae teulu Roald Dahl wedi cyhoeddi ymddiheuriad ar wefan y Roald Dahl Story Company.

“Mae’r teulu Dahl a’r Roald Dahl Story Company yn ymddiheuro’n fawr am y loes hirdymor a dealladwy a gafodd ei achosi gan rai o ddatganiadu Roald Dahl,” meddai’r datganiad.

“Mae’r sylwadau rhagfarnllyd hynny’n annealladwy i ni ac yn wrthgyferbyniad llwyr â’r dyn roedden ni’n ei adnabod a’r gwerthoedd sydd wrth galon straeon Roald Dahl, sydd wedi cael effaith bositif ar bobol ifanc ers cenedlaethau.

“Gobiethiwn y gall Roald Dahl, ar ei orau ac ar ei waethaf, helpu i’n hatgoffa ni o effaith hirdymor geiriau.”