Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod cronfa sydd eisoes wedi dosrannu £30m yn cynnig cymorth “hanfodol” i’r celfyddydau sydd wedi bod ar eu gliniau yn sgil y coronafeirws.
Mae’r Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi bod yn cefnogi theatrau, lleoliadau cerddorol, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archifau a sinemâu bach annibynnol ledled Cymru sydd i gyd ar eu colled yn ariannol o ganlyniad i gau lleoliadau fel rhan o gyfyngiadau Covid-19.
Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi cynnig pecyn gwerth £20m fel rhan o’r ymdrechion i adfer y sector fis diwethaf.
Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yng ngwledydd Prydain i greu Cronfa Llawrydd, gan gydnabod eu cyfraniad i’r economi a phrofiadau diwylliannol yng Nghymru.
Mae 2,800 o weithwyr llawrydd eisoes wedi derbyn cyfran o £7m, a bydd ceisiadau’r trydydd cam yn cael eu cymeradwyo’n fuan.
Cefnogi crefftwr
Mae gweithwyr ar draws y sector yn cydnabod pwysigrwydd y gronfa i’w cefnogi ar ôl iddyn nhw golli gwaith ac arian eleni.
Yn eu plith mae’r crefftwr Eifion Porter o Abertawe, sy’n cefnogi dylunwyr setiau, artistiaid gweledol, lleoliadau diwylliannol a threftadaeth.
“Rwyf wedi bod yn gweithio o fewn y sector diwylliannol am y 10 mlynedd diwethaf ac yn cydweithio ag artistiaid gweledol a chwmnïau theatr, yn ogystal â chefnogi amgueddfeydd a sefydliadau cymunedol drwy ddylunio a chreu arddangosfeydd pwrpasol ar gyfer arddangosfeydd rhyngweithiol,” meddai.
“Gyda’r cyfyngiadau, fe ddaeth fy holl brosiectau i ben ar unwaith, ac nid wyf wedi cael unrhyw incwm ers hynny.
“Mae cefnogaeth y Grant Llawrydd wedi bod yn achubiaeth yn ystod cyfnod ansicr iawn, ac rwy’n ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y gwahanol fathau o weithwyr llawrydd creadigol yn ystod y pandemig hwn.”
Gwyliau comedi wedi goroesi
Un arall mae ei brosiectau wedi elwa o’r gronfa yw Henry Widdicombe, prif drefnydd gwyliau comedi Machynlleth ac Aberystwyth, sy’n dweud bod y digwyddiadau wedi “goroesi” yn sgil cymorth gan y gronfa.
“Yn syml, mae’r gefnogaeth oddi wrth y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru, wedi golygu’r gwahaniaeth rhwng ein sefydliad yn goroesi’r pandemig neu beidio,” meddai.
“Collodd y celfyddydau eu gallu i weithredu dros nos yn gynharach eleni, ac mae’r ffydd a roddwyd ynom drwy’r gronfa hon yn golygu y byddwn yn gallu dychwelyd pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny, ac yn rhoi’r gallu inni gynllunio ar gyfer y dyfodol pan ellir cynnal digwyddiadau eto.
“Rydym yn croesawu’r holl gefnogaeth i’r celfyddydau yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y gall y sector oroesi hyn diolch i raddau helaeth i’r cronfeydd hyn.”
Crochendy Nantgarw ar-lein
Mae Crochendy Nantgarw yn defnyddio’r cyllid i barhau â’r ddarpariaeth ar-lein.
“Mae grantiau Llywodraeth Cymru drwy Grantiau Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Ardrethi Busnes Cymru drwy’r awdurdod lleol wedi ein galluogi i gwrdd â’n gwariant am y flwyddyn ac felly i oroesi, ond mae Cronfa Adfer Ddiwylliannol Cymru wedi bod yn fendith i ni wrth edrych i’r dyfodol,” meddai Dr Eurwyn Wiliam, cadeirydd Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw.
“Ein hymwelwyr a’r dosbarthiadau a redwn mewn crochenwaith, gwydr a pheintio botanegol yw ein prif ffrydiau incwm a bydd y prosiectau y bydd y grant hwn yn eu hariannu yn ein galluogi i wella ein marchnata a chynnig hyfforddiant ar-lein i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’r safle yn bersonol.”
Cerddoriaeth i bobol ifanc yn Abertawe
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi elwa mae prosiectau cerddoriaeth i bobol ifanc yn Abertawe, gan gynnwys Diablos SA1.
Lleoliad sy’n hyrwyddo talent ifanc Cymru yn ardal SA1 y ddinas yw Diablos SA1.
“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltiad y sector creadigol mae gan Diablos SA1 ddyfodol erbyn hyn ac mae wedi rhoi’r brwdfrydedd i mi a’m staff agor yn rhannol a pharatoi i hyrwyddo cerddoriaeth fyw ar ôl Covid, mae’r cyfle hwn a roddwyd drwy’r cyllid wedi bod gwneud gwahaniaeth mawr i’r busnes ac wedi rhoi cyfle i’r lleoliad arallgyfeirio a rhoi hyder a dyfodol i’m gweithwyr yn y diwydiant hwn,” meddai Alex Luck, perchennog y lleoliad.
Llywodraeth Cymru am wneud “popeth posib”
“Yng Nghymru, rydym am wneud popeth bosib i sicrhau bod ein celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn goroesi’r pandemig hwn,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.
“I gydnabod pa mor galed y cafodd y sector ei daro, rydym wedi buddsoddi £10.7m yn ychwanegol i gyrraedd cynifer o rannau’r sector â phosibl.
“Mae hyn yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r £59m o gyllid canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf, gan dynnu sylw at y gwerth a roddwn i gyfraniad y sector at fywyd Cymru a’r economi ehangach – ac mae’n rhaid i hynny barhau yn y dyfodol.
“Rydym yn cydnabod y bydd arnom angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn i helpu inni ddod ynghyd ac ailadeiladu wedi i’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddod i ben.”