Coronafeirws: rhybudd am gynnydd mewn achosion yn Llanbed a Dyffryn Aeron

Fe ddaw drannoeth rhybudd tebyg yn ardal Aberystwyth

Tref Llanbedr Pont Steffan

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio am gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron.

Fe ddaw ddiwrnod yn unig ar ôl rhybudd tebyg am ardal Aberystwyth.

Yn ôl y Cyngor Sir, roedd 159.6 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth yn y sir.

Fe fu 35 o achosion positif yn yr ardal dan sylw dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r Cyngor Sir yn dweud bod pobol yn dod ynghyd yn gymdeithasol ac yn y gweithle wedi arwain at y cynnydd.

Maen nhw’n atgoffa pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau, gan gynnwys cadw pellter oddi wrth ei gilydd, golchi dwylo’n rheolaidd a gwisgo mwgwd.

Maen nhw’n atgoffa pobol fod symptomau’r coronafeirws yn cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • peswch cyson newydd
  • colli’r gallu i arogli neu flasu

Maen nhw hefyd yn cynghori pobol i ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Cadw pellter o 2m oddi wrth eich gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
  • Golchi eich dwylo’n rheolaidd;
  • Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
  • Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Gall aelwydydd ffurfio ‘swigen’ gyda’i gilydd – ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
  • Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i’r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy’n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
  • Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

← Stori flaenorol

Arwydd 'Machynlleth' uwchben y dref

Cronfa Llywodraeth Cymru’n “gwneud gwahaniaeth” i’r celfyddydau wedi Covid-19

Theatrau, lleoliadau cerddorol, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archifau a sinemâu bach i gyd ar eu colled

Stori nesaf →

Peter Alliss

Peter Alliss, “llais golff”, wedi marw’n 89 oed

Chwaraeodd e yng Nghwpan Ryder wyth gwaith cyn dod yn sylwebydd ar ôl ymddeol

Hefyd →

Y Blaid Lafur ddim am gadw rhoddion ariannol Vaughan Gething

Bydd y £31,600 yn cael ei roi at achosion da