Giovanna Fletcher yw Brenhines y Castell eleni, ar ôl iddi gael ei choroni’n enillydd y gyfres I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! yng nghastell Gwrych.
Cyrhaeddodd hi’r tri olaf, ynghyd â’r DJ Jordan North, a ddaeth yn ail, a’r cyflwynydd teledu Vernon Kay oedd yn drydydd.
“Alla i ddim credu’r peth,” meddai’n syth ar ôl ei buddugoliaeth.
“Mae pobol wedi bod yn codi’r ffôn i bleidleisio. Alla i ddim credu’r peth.
“Hwn yw’r profiad mwyaf anhygoel.”
Dywedodd Jordan North na allai “fod wedi colli i neb gwell”, a’i bod hi’n “haeddu” ei buddugoliaeth.
Y ffeinal
Ar ddechrau’r ffeinal, cafodd Vernon Kay ei glymu i fwrdd am ddeng munud er mwyn ennill cwrs cyntaf iddo fe a’i gyd-gystadleuwyr.
Cafodd trychfilod a ffrwythau a llysiau wedi pydru eu harllwys ar ei ben.
Dywedodd mai dyna’r “peth mwyaf ofnadwy wnes i yn fy myw”.
Bu’n rhaid i Giovanna Fletcher fwyta ŵy hwyaden lefeiniedig, trwyn buwch, llygad pysgodyn, caill dafad a phidyn tarw, a llwyddodd hi i fwyta’r cyfan er mwyn ennill prif gwrs i’r tri.
Cafodd Jordan North ei gloi mewn cawell nadroedd a llwyddo i aros yno am ddeng munud er mwyn ennill pwdin i’r tri.
Castell Gwrych
Cafodd y gyfres ei symud o Awstralia i Gymru eleni yn sgil y coronafeirws.
Bu’r castell ger Abergele ynghau am gyfnod cyn dechrau ffilmio.
Shane Richie oedd y cystadleuydd olaf i adael y castell cyn y ffeinal.
Y rhai eraill oedd wedi cymryd rhan yw’r athletwr Syr Mo Farah, y dawnsiwr AJ Pritchard, y newyddiadurwraig Victoria Derbyshire, y baralympwraig Hollie Arnold, y canwr clasurol Russell Watson, seren y West End Ruthie Henshall, a’r actorion Beverley Callard a Jessica Plummer.
Economi Cymru
Y gred yw fod y gyfres yn werth £1m i economi Cymru, gyda nifer o gwmnïau lleol wedi cael gwaith yn uniongyrchol.
Cafodd cwmnïau lleol eu cyflogi i ymgymryd â phob math o dasgau ar gyfer y gyfres.
Mae’r rhain yn cynnwys cwmni bysiau Voel Coaches i gludo’r criw yn ôl ac ymlaen a Place2Print yn Llandudno i wnïo’r sachau arian ar gyfer Ciosg Cledwyn.
Cafodd 50 o fusnesau o Gymru eu defnyddio i baratoi’r castell cyn bod y gwaith arall yn dechrau, yn ôl adroddiadau, ac mae’r cwmni cynhyrchu wedi cyflogi gweithwyr lleol lle bynnag y bu hynny’n bosibl yn ystod y gyfres.