Mae chwaraewr rygbi Cymru a’r Scarlets, Rhys Patchell, wedi diolch i’r capel a’r Ysgol Sul am fod yn “rhan fawr o’m magwraeth”.

Bydd yn trafod ei ochr grefyddol ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul (Rhagfyr 6).

“Rwy’n ffodus iawn fod Capel Minny Street ‘di bod yn rhan fawr o’m magwraeth,” meddai’r seren rygbi.

“Roeddwn i’n eistedd yng nghongl y sedd fawr yn adrodd adnodau ac wedyn drama’r geni.

“Roedd ‘na lot ohonyn nhw a lot o rôls gwahanol, bugail, dyn y llety – byth yn Joseff, ond mae’n iawn, roeddwn i’n ddigon hapus.”

“Rhywbeth cŵl am fod yn fugail”

“Roeddwn i’n joio bod yn fugail, roedd ’na rywbeth cŵl am fod yn fugail,” meddai.

“Roeddwn i’n ŵr doeth un flwyddyn ‘fyd. Roeddwn i’n chwarae gyda’r Gleision ar y pryd, ag oedd gyda ni gêm Ewropeaidd yn Montpellier, gyda’r gic gyntaf am naw ar nos Sadwrn.

“Gadael y stadiwm yng nghanol nos, cyrraedd Caerdydd rhwng hanner awr wedi un a dau yn y bore, ac wedyn yn y sedd fawr fel gŵr doeth am hanner awr wedi deg bore dydd Sul.

“Roedd Owain Llyr (ei weinidog) yn gefnogaeth fawr, ef wnaeth sefydlu’r clwb pobl ifanc yn Minny St.

“Roedd wastad rhyw wers ym mhob sesiwn, roedd sesiynau’n llifo a chi’n dysgu’r do’s and don’ts chi’n gwybod, parchu pobl a byw yn y ffordd gywir.”

Rhoi “gwên ar wyneb” wrth ymweld â wardiau plant dros gyfnod y Nadolig

Ar y rhaglen, bydd Rhys Patchell yn trafod ymweld â wardiau plant dros gyfnod y Nadolig.

“Mae’n ddiwrnod arbennig. Does neb yn llusgo’i draed i fynd yna,” meddai.

“Mae pawb yn gwerthfawrogi’r hyn ni’n gwneud, a’r wên ar y wyneb. Awr o’n diwrnod ni yw e, ac un flwyddyn, daeth y gitâr mas.

“Roeddwn i ar y ward efo’r ferch fach ’ma, ag roedd hi’n amlwg yn pryderu am y driniaeth oedd hi’n mynd i gael.

“Roedd y nyrsys a’r rhieni a phawb yn dod i mewn i’r stafell a dweud mod i’n gorfod perfformio.”

Atgofion Nadolig

Wrth drafod atgofion Nadolig, dywedodd Rhys Patchell: “Noswyl Nadolig oedd y diwrnod mawr i ni.

“Roedd ’na wastad wasanaeth mas yn y festri gan Owain Llyr, felly dyna oedd y gwasanaeth mawr Nadolig i ni fel teulu.

“Dydd Nadolig, dw i jyst yn cofio Ifan a finnau wedi cyffroi yn llwyr.”

Dymuniad ar gyfer Nadolig eleni

Pe bai Rhys Patchell yn cael dymuniad ar gyfer Nadolig eleni, byddai eisiau i “bobol gael ‘Dolig arferol, a bod rhywbeth i ddathlu a rhywbeth i bobl edrych ymlaen ato fe ar ôl flwyddyn eithaf heriol.

“Dyw e ddim ‘di bod yn hawdd a gobeithio bod pawb yn gallu eistedd rownd gyda’i gilydd ac o leiaf cael diwrnod o fwynhau.”

Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul am 7.30 yr hwyr