Bydd Syr Bryn Terfel yn ffrydio’i gyngerdd Dolig yn fyw o Aberhonddu i bob cwr o’r byd… gyda helpu un o’r ffrindiau, sef Gary Halvorson y cyfarwyddwr fu’n gweithio ar y gyfres deledu Friends.
Cynhelir y cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar nos Sadwrn, Rhagfyr 12, ac mae yn cael ei ffrydio gan Gwmni Opera Metropolitan Efrog Newydd.
Ymysg yr arlwy bydd Bryn Terfel yn canu ‘Anfonaf Angel’ yn arbennig i weithwyr rheng flaen cartrefi gofal, a hynny am eu gwaith yn ystod y pandemig.
Bydd y cyngerdd hefyd yn rhoi llwyfan i’r tenor Trystan Llŷr Griffiths, y soprano Natalya Romaniw, a’r grŵp gwerin Calan.
Hefyd fe fydd Bryn Terfel yn perfformio gyda’i wraig, Hannah Stone, a arferai fod yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru.
Ac yn cyfarwyddo’r cyfan fydd Gary Halvorson sydd wedi gweithio ar restr nodedig o raglenni teledu gan gynnwys Friends, Two and a Half Men a The Drew Carey Show.
Blas Cymreig unigryw
“Roeddwn yn arbennig o awyddus i’r cyngerdd fod â blas Cymreig unigryw ac i roi llwyfan ar gyfer talentau ifanc Cymreig anhygoel,” meddai Bryn Terfel.
“Erbyn hyn, rydw i wedi cael sawl tymor yn perfformio rolau canu yn Efrog Newydd sydd yn agos iawn at fy nghalon.
“Wrth gwrs, roeddwn i fod yn Efrog Newydd ym mis Ionawr yn perfformio yn The Flying Dutchman, ond yn anffodus torrais fy nghoes yn wael yn Bilbao, a oedd yn ergyd enfawr i ddechrau fy nhymor yn 2020.
“Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at y cyngerdd hwn ers yr haf a bydd y repertoire y byddaf yn ei berfformio yn sicr yn fy atgoffa o’r holl bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig hwn.
“Mae gan y cyngerdd ddetholiad o gerddoriaeth Nadoligaidd hyfryd o bob cwr o’r byd.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn gwylio er mwyn gweld a chlywed rhai perfformwyr rhyfeddol o Gymru.”