Mae dau gwmni cynhyrchu teledu – Cwmni Da a Triongl – wedi cael comisiwn gan S4C i gynhyrchu cyfres ddrama newydd o’r enw Stad, fydd wedi ei gosod ar stad tai cyngor yng Nghaernarfon ac yn spin-off o’r ddrama Tipyn o Stad, a ddaeth i ben yn 2008 ar ôl saith cyfres.
Bydd y gyfres yn dilyn trigolion stad ‘Maes Menai’, gan ailymweld â rhai o’r cymeriadau a ymddangosodd yn y gyfres wreiddiol, gydag ambell i wyneb newydd yn ymuno â’r cast.
“Mae’n fraint cael sgrifennu am gymeriadau’r gymuned yma yng Nghaernarfon – a finna wedi cael fy addysg yn y dref, ac yn dal i weithio a byw yn yr ardal,” meddai Angharad Elen, Cynhyrchydd Datblygu Drama Cwmni Da.
“Yr her ydi dal gafael yn yr hyn a wnaeth y gyfres wreiddiol mor llwyddiannus – yr hiwmor, y cyffro, y cliffhangers – a’i droi yn rhywbeth newydd sy’n teimlo’n ffres ac yn annisgwyl ac yn mynd dan groen y cymeriadau o ddifri.”
Saethu tu allan i glwb nos
Daeth cyfres olaf Tipyn o Stad i ben gan adael y gynulleidfa ar flaenau eu seddi wrth i Heather Gurkha (Jennifer Jones) gael ei saethu y tu allan i glwb nos ei chariad, Ed Lovell (Bryn Fôn).
Cannoedd o filoedd yn gwylio ar y We
Llwyddodd cyfresi Bocs Sets Tipyn o Stad ar S4C Clic i ddenu bron i 240,000 o sesiynau gwylio
“Daeth apêl Tipyn o Stad yn amlwg yn ddiweddar wrth i do newydd o bobl ifanc heidio at S4C Clic i wylio bocs sets y gyfres yn ystod y cyfnod clo,” meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C.
“Yn sicr mae ’na awydd gwirioneddol ymysg y gynulleidfa i ailgydio ym mywydau cymeriadau lliwgar y gyfres wreiddiol. Bydd Stad yn bodloni’r awydd hwnnw, tra’n teimlo’n newydd ac yn berthnasol ar yr un pryd.”
Bydd Stad yn cychwyn ffilmio yn 2021 gyda’r gyfres ar sgrin yn 2022.