Mae drama rithiol ddwyieithog yn gobeithio annog pobol i siarad am effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl.

Mae ‘Bara a Babanod’ yn dilyn diwrnod ym mywyd galwadau Zoom teulu o Sir Benfro.

Mae’r ddrama deimladwy a doniol yn taflu goleuni ar y straen a’r pryder mae cyfyngiadau’r coronafeirws wedi ei roi ar fywyd teuluol.

Mae’r prosiect yn dod â thîm cynhyrchu byd-eang ynghyd a bydd actorion proffesiynol o Lundain a Chaerdydd yn ymateb yn fyrfyr i fideo a cherddoriaeth gan yr artist o Sir Benfro Paul Best.

Ymhlith yr actorion mae Izzy Gibb, Samuel Normington, Angharad Tudor, Paul Best, Rebecca Ashe a Fflur Evans.

‘Un o bob pump wedi profi iselder yn ystod y pandemig’

Dywedodd Ceri Ashe, sylfaenydd Popty Ping Productions sydd yn gyfrifol am y ddrama fod effaith y pandemig i’w deimlo ym mhob cwr o’r wlad:

“Gydag un o bob pump o oedolion yn profi rhyw fath o iselder yn ystod y pandemig, mae’n bwysicach nag erioed i gadw’r sgwrs yn llifo o gwmpas iechyd meddwl.

“Er fy mod yn edrych ymlaen at fod yn ôl yn creu celf a dod o hyd i ffyrdd newydd o adrodd straeon wrth i theatrau aros ar gau, gyda chalon drom yr ydym yn dal yng nghanol y sefyllfa yma.

Ceri Ashe sydd hefyd yn gyfrifol am sioe West End ‘Bipolar and Me’ a werthodd allan yn ‘Theatr Etcetera’ Llundain ym mis Hydref 2019 ac eto yn Abergwaun, ym mis Chwefror 2020.

“Pan roeddem yn cynllunio’r prosiect yn gynharach eleni, roeddem yn disgwyl mai myfyrio ar y pandemig fydden ni a ddim yn dal i fyw drwyddo,” ychwanegodd.

“Fodd bynnag, nid yw’r cyfan yn ddu. Mae’r cyfle hwn wedi ein galluogi i weithio gyda phobol ledled y byd – gan agor drysau rhithwir newydd – y gobaith yw y byddwn yn gallu manteisio arnynt yn y cyfnod ôl covid.

“Drwy’r prosiect, rydym yn gobeithio dod â rhywfaint o lawenydd, gobaith ac ychydig o chwerthin i wylwyr wrth i ni i gyd lywio ein ffordd drwy’r normal newydd.”