Mae Golwg wedi bod yn holi’r ifancaf o blith celc da o awduron newydd sydd wedi cyhoeddi llyfrau at y Nadolig yma…

Mae Tu Ôl i’r Awyr – ‘nofel ddoniol a thorcalonnus’ yn ôl gwasg Y Lolfa – eisoes wedi denu cryn sylw a chanmoliaeth am y ffordd arloesol a hyderus y mae hi’n portreadu dau gymeriad ifanc sydd â’u hiechyd meddwl yn fregus.