Bydd Callum Sheedy yn ennill ei bedwerydd cap brynhawn dydd Sadwrn pan fydd Cymru yn croesawu’r Eidal i Barc y Scarlets yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Mae’n un o wyth o chwaraewyr sydd wedi ennill eu capiau cyntaf yn ystod gemau’r Hydref.

Ond er ei fod yn gymwys i chwarae i Iwerddon, ac wedi cynrychioli Lloegr mewn gem di-gap yn erbyn y Barbariaid y llynedd, mae wedi disgrifio’r profiad o wisgo crys coch Cymru fel “braint efnfawr”.

“Dw i ’di fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd, ond wrth gwrs dwi’n falch iawn o fy nghysylltiadau Gwyddelig drwy fy nhad, a hefyd wrth gwrs yn falch o fod wedi cael y cyfle i chwarae ym Mryste,” meddai.

“Ond bob tro dwi’n siarad neu ym meddwl am Gymru dw i’n cael ryw deimlad yn fy nghalon.”

Cyn ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon chwaraeodd y maswr ran allweddol yn llwyddiant Bryste’r tymor diwethaf, gan gyrraedd gemau ail gyfle’r Uwch Gynghrair a rownd derfynol Cwpan Her Ewrop.

“Pan siaradodd Wayne [Pivac] gyda fi, mi gadarnhaodd y teimladau hynny, i ddweud y gwir o’n i bron a chrio.

“Dwi’n falch i mi ymateb fel’na oherwydd mi brofodd mai coch oedd fy lliw.

“Bu rhaid i fi ddeud wrth y teulu dros facetime ac roedd yn brofiad emosiynol a lot o ddagrau.”

Perthynas Hardy a Sheedy 

Ar ôl chwarae ochr yn ochr â’i gilydd yn erbyn Gerogia bydd Kieran Hardy yn ymuno â Callum Sheedy fel mewnwr unwaith eto.

“Dw i di chwarae yn erbyn Kieran ers yn unarddeg oed, yna dod yn ffrindiau da wrth chwarae i dîm dan un ar bymtheg Cymru cyn chwarae allan yn Jersey gyda’n gilydd.

“Dwi a Kieran wedi chwarae tipyn gyda’n gilydd, dw i’n nabod ei gryfderau o, mae o’n gwybod sut i dynnu’r pwysau oddi arna i a dwi’n gwybod pryd i dynnu’r pwysau oddi arno fo.

“Mae’n un o’r mewnwyr gorau dw i wedi chware gyda, ac mae ei ddealltwriaeth o’r gêm yn anhygoel.

“Mae cael cyfle arall i chwarae maswr ar y penwythnos yn golygu cymaint i mi, ac yn gyfle enfawr galla i ddim aros i’w gymryd.

“Mae’n holl bwysig ein bod yn cael buddugoliaeth ond mae’r perfformiad hyd yn oed yn bwysicach.”

‘Cyfle arall i barhau i adeiladu’

Ar ôl gwneud naw newid i’r tîm gollodd yn erbyn Lloegr wythnos diwethaf mae prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac wedi disgrifio’r gêm olaf yn erbyn yr Eidal fel cyfle arall i’r garfan adeiladu.

“Rydym wedi rhoi wyth cap newydd yn ystod yr ymgyrch ac mae’n bwysig erbyn diwedd y gêm y bydd pob un ohonynt wedi cael mwy nag un ymddangosiad.

“O’r cychwyn cyntaf roeddem am i’r ymgyrch yma fod yn gyfle i chwaraewyr ac rydym wedi gwneud hynny.

“Mae’r gwaith caled yn talu ei ffordd ac rydyn ni eisiau dangos hynny eto ddydd Sadwrn a gorffen yr ymgyrch ar nodyn uchel.”

Bydd Cymru yn cystadlu gyda’r Eidal am y pumed safle yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Cymru v Yr Eidal yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 4.45 y p’nawn.

Darllen mwy: