Bydd rheolwr dros dro Cymru, Robert Page, yn llenwi esgidiau Ryan Giggs wrth i’r enwau ddod allan o’r het ar gyfer Cwpan y Byd.
Daw hyn wrth i ansicrwydd barhau ynghylch dyfodol Ryan Giggs.
Page oedd wrth y llyw fis diwethaf wrth i Gymru guro Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir i sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd, a chadarnhau eu lle ym Mhot 2 yn het Cwpan y Byd ddydd Llun (Rhagfyr 7) yn y Swistir.
Roedd Giggs yn absennol ar gyfer gemau mis Tachwedd Cymru ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad yn ei gartref ym Manceinion ar Dachwedd 1.
Mae’r gŵr 47 oed, sy’n gwadu pob honiad o ymosodiad, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Chwefror 1, wrth i Heddlu Manceinion Fwyaf gynnal ymchwiliad.
Dyfodol Giggs dal yn y fantol
Roedd Giggs mewn cysylltiad rheolaidd â Page a gweddill y staff hyfforddi yn ystod y mis diwethaf, ac mae wedi siarad â phrif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ers hynny.
Ond mae’n debyg na fydd dyfodol Giggs yn cael ei benderfynu tan fydd canlyniad yr ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi.
Cafodd Giggs ei benodi yn rheolwr Cymru ym mis Ionawr 2018, ac arweiniodd Gymru i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 2020.
Roedd yn paratoi ar gyfer y twrnament sydd wedi’i ohirio tan yr haf nesaf, cyn ei arestio.
Mae gemau nesaf Cymru ym mis Mawrth pan fydd ymgyrch UEFA ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar yn dechrau.