Mae cyn-asgellwr Cymru, Nigel Walker, o’r farn mai Josh Adams yw’r asgellwr gorau yn y byd.
Bydd Adams a Louis Rees-Zammit ar yr esgyll brynhawn Sadwrn pan fydd Cymru yn croesawu’r Eidal i Barc y Scarlets.
“Rwy’n credu bod dadl eithaf cryf mai Josh Adams yw’r asgellwr gorau yn y byd ers rhyw flwyddyn a hanner,” meddai Nigel Walker.
“Yn sicr, mae ei record sgorio tros ei glwb a’i wlad wedi bod yn rhagorol ac mae ei frwdfrydedd yn amlwg.
“Rwy’n credu ei fod eisoes wedi dangos ei fod yn barod i fynd ar daith y Llewod y flwyddyn nesaf.”
Y Llewod
Bydd cyn-hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn arwain y Llewod i Dde Affrica fis Gorffennaf nesaf – ac mae Nigel Walker yn disgwyl gweld Josh Adams ar y daith.
“Mae wedi bod yn eithriadol o dda, a dydw i ddim yn defnyddio’r gair hwnnw’n aml.
“Mae ganddo sgiliau pêl anhygoel, mae’n ymosodol, yn wych yn yr awyr, ac mae ganddo gêm amddiffynnol gadarn iawn.”
Sgoriodd yr asgellwr saith o geisiau yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd – y nifer uchaf i unrhyw chwaraewr yn y twrnament.
Fodd bynnag, dydy Adams heb groesi’r llinell o gwbl yn ei chwe gêm ryngwladol ddiwethaf.
Y tro diwethaf oedd yn erbyn yr Eidal fis Chwefror, pan sgoriodd hatric.
Bydd Cymru yn cystadlu gyda’r Eidal unwaith eto’r penwythnos yma, a hynny am y pumed safle yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Cymru v Yr Eidal yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 4.45 y p’nawn.