Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn cwyno nad yw hi “yr un fath i bawb” ar ôl i rai o gaeau pêl-droed Lloegr groesawu cefnogwyr eto ar ôl i reolau’r coronafeirws gael eu llacio gan Lywodraeth Prydain.

Gall timau mewn ardaloedd Haen 1 gael hyd at 4,000 o gefnogwyr cartref, ond dim ond 2,000 o gefnogwyr cartref fydd yn cael bod mewn ardaloedd Haen 2 fel Luton, sef gwrthwynebwyr yr Elyrch yfory (dydd Sadwrn, Rhagfyr 5).

Ond gyda’r gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Liberty yn Abertawe, fydd yr Elyrch ddim yn cael agor eu gatiau i’w cefnogwyr eu hunain ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

“Dyw hi ddim yn edrych fel pe bai hynny ar y gorwel,” meddai Steve Cooper yn ei gynhadledd i’r wasg.

“Dw i jyst yn teimlo dros y cefnogwyr yn fwy nag unrhyw un arall.

“Byddan nhw’n gweld pobol yn eistedd yn eu seddi ac yn gwybod nad ydyn nhw’n gallu dod i’w stadiwm eu hunain i gefnogi eu tîm eu hunain.

“Mae pawb yn siarad am ba mor bwysig yw hi i bobol gael mynd i gêm bêl-droed.

“Gobeithio y bydd pethau’n datblygu.

“Dw i’n deall bod yna fater difrifol ar y gweill o hyd, a dw i’n gwybod y bydd y clwb hwn yn barod i adael i’r cefnogwyr ddod i mewnn.

“Ar ôl gweithio trwy’r cyfnodau cynnar wrth ddychwelyd i ymarfer a chwarae a pha mor drwyadl oedd y clwb o ran dilyn gweithdrefnau, dw i’n gwybod na fydd hynny’n wahanol wrth adael i gefnogwyr ddod i mewn eto.

“Ond dydy hi ddim yr un fath i bawb, nac ydy?

“Un peth hyd yn hyn, boed yr amserlen neu gefnogwyr mewn stadiymau, er eu bod yn wahanol ac yn anodd, mae wedi bod yr un fath i bawb, ond nawr dydy hi ddim.

“Felly mae’n dod yn fwy o destun trafod ac fe fydd yn sicr o gael dylanwad [ar y gêm].”