Fe roddodd y Cymry grasfa i’r Eidalwyr ddechrau’r flwyddyn, cyn colli pob un o’u gemau dilynol yn y Chwe Gwlad. Ond mae cyfle unwaith eto yn erbyn yr Eidal i orffen y flwyddyn ar nodyn uchel…

Wyth mis yn ôl, fe ddaeth y tymor rygbi rhyngwladol i ben yn sydyn heb i neb amgyffred yn iawn pa mor ddifrifol oedd feirws Covid-19 a fyddai’n cymryd drosodd ein bywydau yn 2020.