Fydd Brexit ddim drosodd ddiwedd y flwyddyn yma. Un ffordd neu’r llall, mi fydd yna flynyddoedd o ymrafael eto – rhwng y Deyrnas Unedig (faint bynnag ohoni fydd ar ôl) a’r Undeb Ewropeaidd, a rhwng carfanau o fewn y Blaid Geidwadol.

Yn waeth na hynny, mi fyddwn ni, bobol gyffredin, yn diodde’ o’r canlyniadau am flynyddoedd i ddod hefyd. Yr unig gwestiwn ydi, pa mor ddrwg fydd hynny?