Mae’r Deyrnas Unedig yn cael brechlyn coronafeirws yn gyntaf gan ei bod yn “wlad llawer gwell” na Ffrainc, Gwlad Belg a’r Unol Daleithiau, yn ôl un o weinidogion cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Canmolodd Gavin Williamson y gwaith a wnaed gan y rheoleiddiwr meddygol i gymeradwyo’r brechlyn Pfizer/BioNTech.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg fod gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) arbenigwyr “gwych”.

Mae’r rheoleiddiwr Ewropeaidd wedi beirniadu’r defnydd o bwerau brys i gymeradwyo’r brechlyn, gan fynnu bod ei ddull gweithredu mwy pwyllog yn fwy priodol.

“Rwy’n credu bod gennym y bobol orau yn y wlad hon ac mae’n amlwg bod gennym y rheoleiddiwr meddygol gorau, llawer gwell na Ffrainc, llawer gwell na Gwlad Belg, a llawer gwell na America,” meddai wrth Radio LBC.

“Dyw hynny ddim yn fy synnu i oherwydd rydyn ni’n wlad llawer gwell na phob un ohonyn nhw.”

Brexit

Fodd bynnag, yn wahanol i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ac ambell Frecsitiwr amlwg, ni awgrymodd Gavin Williamson bod Brexit wedi cyfrannu’n uniongyrchol.

“Mae’n ymwneud â’r clinigwyr gwych, dyna sydd wedi gwneud iddo ddigwydd mor gyflym, felly rydym yn ddiolchgar iddynt oherwydd drwy wneud yr hyn maen nhw wedi’i wneud, maen nhw’n mynd i achub bywydau.”

Dywedodd llefarydd y Comisiwn Ewropeaidd, Eric Mamer, fod arbenigwyr yr MHRA yn “dda iawn” ond “yn bendant nid ydym yn cymharu rheolyddion ar draws gwledydd, nac yn gwneud sylwadau ynghylch pwy sy’n well”.

“Nid cystadleuaeth bêl-droed yw hon, rydyn ni’n sôn am fywyd ac iechyd pobl,” meddai.

Ddydd Mawrth (Rhagfyr 1), awgrymodd Matt Hancock bod Brexit wedi caniatáu i’r Deyrnas Unedig symud yn gyflymach ar gael brechlyn – hawliad y mae’r MHRA a’r Undeb Ewropeaidd yn ei wrthod.