Bydd y cyllid sydd ar gael ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i covid yn gostwng o £5.6bn yn 2020-21 i ddim ond £766m y flwyddyn nesaf.
Dyma brif gasgliad adroddiad newydd gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Wrth ddatgelu ei ‘adolygiad gwariant’ fis diwetha’ dywedodd Rishi Sunak, y Canghellor, y byddai £1.3bn o gyllid ychwanegol yn dod i Gymru.
Ond mae ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi taflu goleuni ar y sefyllfa go iawn.
Mae disgwyl y bydd covid yn peri llai o her i wasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesa’, ond mae ymchwilwyr y Ganolfan yn pryderu bod y gostyngiad i £766m yn ormod o gwymp.
“Ffeithiau oer y sefyllfa”
Yn ôl Guto Ifan o’r Ganolfan mae adolygiad gwariant y Deyrnas Unedig “wedi dod â ni wyneb yn wyneb â ffeithiau oer y sefyllfa”.
“Ar ôl y cynnydd enfawr rydym ni wedi’i weld yng nghyllideb Cymru eleni er mwyn ymateb i Covid-19, mae’r cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn eithaf llym,” meddai.
“Bydd cyllid Covid-19 yn gostwng yn sydyn y flwyddyn nesaf, er bod disgwyl i’r pwysau sy’n deillio o’r pandemig barhau.
“Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 y mis hwn, mae’n wynebu ansicrwydd cynyddol.
“Mae’n destun rhwystredigaeth o hyd nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arfau i reoli’r sefyllfa, megis mwy o bwerau dros fenthyca, a’r gallu i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn eleni.”
Gofid am drafnidiaeth
Mae’r adroddiad hefyd yn mynegi pryderon ynghylch y gyfran o wariant trafnidiaeth y Deyrnas Unedig y bydd Cymru’n ei derbyn dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’n tynnu sylw at y penderfyniad i drin prosiect rheilffyrdd Seisnig HS2 fel prosiect ‘Cymru a Lloegr’, a goblygiadau hynny o ran Fformiwla Barnett.
Dyma’r fformiwla sy’n dyfarnu faint o gyllid y Deyrnas Unedig mae Cymru yn ei dderbyn, ac mae’r sefyllfa yma yn golygu y gallai cyllideb Cymru fod ar ei cholled o £500m erbyn 2025-26.