Mae pobol mewn “penbleth” dros ble y gallant deithio o fewn y Deyrnas Unedig dros y Nadolig, gyda llawer yn dweud nad oes ganddynt syniad sut mae’r system haen coronafeirws yn Lloegr yn gweithio, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd mwy nag un o bob tri o’r 2,000 o oedolion a holwyd gan Travelodge eu bod am gael mwy o eglurder ynghylch ble y caniateir iddynt fynd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Er bod y rhan fwyaf o Loegr yn Haen 2, mae dwy ran o dair o’r ymatebwyr sy’n byw yn y rhanbarthau hynny’n credu na chaniateir iddynt deithio i ardal Haen 2 arall, meddai’r adroddiad.

Dywedodd Travelodge fod yr arolwg yn dangos bod un o bob pedwar person yn ansicr sut mae’r system haen yn gweithio.

Dywedodd Shakila Ahmed, o Travelodge: “Mae ein hadroddiad teithio diweddaraf yn datgelu bod pobl yn drysu ynghylch a allant deithio o fewn y system haen bresennol.

“Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu mae’r galw yn sicr yno am gymryd gwyliau byr.

“Mae’n hanfodol bod pobl, cyn gwneud cynlluniau teithio, yn cael gwybodaeth lawn am y canllawiau teithio haenog ar gyfer eu rhanbarth preswyl a’u lleoliad ymweld.”

Darllen Mwy