Mae ail weithiwr wedi marw yn sgil achosion o’r coronafeirws mewn ffatri fwyd yn ne-ddwyrain Lloegr, yn ôl undeb.

Galwodd y GMB am brofion torfol ar weithwyr ar safle Bakkavor ger Dover, ac i unrhyw weithiwr sy’n absennol oherwydd y coronafeirws gael cyflog llawn.

Dywedodd yr undeb fod o leiaf 97 o weithwyr y ffatri, sy’n cynhyrchu bwyd i Marks & Spencer, wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu.

Dywedodd trefnydd y GMB, Frank Macklin: “Yn anffodus, mae ffatri Bakkavor bellach wedi dioddef ail farwolaeth sy’n gysylltiedig â Covid-19.

“Hoffai GMB fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y gweithwyr ar yr adeg anodd hon.

“Mae GMB wedi gofyn am gau’r ffatri i ganiatáu profion torfol ar weithwyr a glanhau’r ffatri’n drylwyr.

“Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, gall y ffatri ailagor, gyda staff yn dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel gan wybod bod pob cam wedi’i gymryd i sicrhau eu bod yn gweithio yn yr amgylchedd mwyaf diogel posibl.

“Rydym hefyd yn galw ar Bakkavor i dalu cyflog llawn i weithwyr os ydynt wedi profi’n bositif am Covid-19 neu’n gorfod hunanynysu. Ni all neb oroesi ar dâl salwch statudol yn unig.”