Mae ymchwil gan Gyngor Gwynedd yn dangos mai yno mae’r ganran uchaf o dai gwyliau yng Nghymru a bod y sefyllfa yn “argyfyngus”.

Yn ôl yr adroddiad mae 6,849, neu 10.77%, o stoc tai Gwynedd yn dai gwyliau neu’n ail gartrefi o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.56%.

Nodir hefyd fod y nifer o dai gwyliau ac ail gartrefi yn y sir wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar a bod hyn wedi cael effaith ar fynediad pobol leol i’r farchnad dai – gan arwain at 60% o bobol leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

Bydd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Gabinet Cyngor Gwynedd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor wythnos nesaf.

‘Llwyfannau digidol wedi dwysau’r broblem’ 

Yn ôl Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd mae llwyfannau digidol ar-lein wedi dwysau’r broblem yn yr ardal.

“Mae pryderon am y nifer o dai gwyliau mewn rhai ardaloedd o Wynedd ers blynyddoedd lawer,” meddai.

“Mae’r ymchwil yma yn cadarnhau fod y duedd yma wedi dwysau dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil twf mewn llwyfannau fel Airbnb, HomeAway a Bookings.com sy’n hwyluso’r broses o farchnata unedau preswyl at ddefnydd gwyliau.

“Mewn rhai ardaloedd, mae’r sefyllfa yn wirioneddol ddychrynllyd gydag arolwg AirDNA yn dangos cynnydd o 915% o’r unedau oedd ar gael yn haf 2019 o’i gymharu gydag Ionawr 2017.”

Fodd bynnag mae’r ymchwil yn tynnu sylw at sawl system sydd eisoes ar waith i reoli’r sefyllfa mewn gwledydd eraill y byddai efallai modd eu hefelychu yma yng Nghymru.

‘Anfoesol’

Disgrifiodd y cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Gwynedd yr effaith ar y farchnad dai leol fel un “anfoesol.”

“Mae sicrhau cyflenwad addas o dai i bobol leol allu byw yn eu cymunedau yn flaenoriaeth glir i ni,” meddai.

“Ond mae prisiau tai uchel yn sgil y galw am unedau gwyliau ac ail gartrefi yn gwthio’r hawl sylfaenol i gartref yn eu cymunedau eu hunain y tu hwnt i afael pobol leol mewn nifer cynyddol o’n trefi a phentrefi.

“Mae’n sefyllfa anfoesol mewn pentref fel Abersoch lle mae 46% o’r tai yn llety gwyliau a phris tŷ cyfartalog yn £365,275 – swm sydd yn bell y tu hwnt i 92% o bobol leol.

“Mae’r ymchwil yma yn ei gwneud hi’n hollol glir fod rhaid gweithredu ar y lefel cenedlaethol ac mae sawl cam sydd angen eu cymryd gan Lywodraeth Cymru os ydym wirioneddol o ddifrif am daclo’r broblem.”

Wedi i’r adroddiad gael ei chyflwyno i Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor wythnos nesaf bydd y gwaith ymchwil yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar Ragfyr 15.