Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd wedi argymell bod Neil McEvoy yn cael ei wahardd o weithgarwch y siambr am 21 diwrnod.
Mae eu hadroddiad hefyd yn argymell bod yr Aelod o’r Senedd yn colli’i fynediad dirwystr – yn gynrychiolydd etholedig – i Dŷ Hywel a’r Senedd (eto am gyfnod o 21 diwrnod).
Daw hyn yn sgil ymchwiliad i gŵyn gan Mick Antoniw, Aelod Llafur o’r Senedd, sy’n honni bod Neil McEvoy wedi ymddwyn mewn “modd hynod fygythiol” tuag ato ar Fai 21, 2019.
Mae’r AoS WNP (Welsh Nation Party a Phlaid Cymru gynt) yn cyfaddef galw’r AoS Llafur yn “Dori coch di-asgwrn cefn” ond mae hefyd wedi dweud na fydd yn ymddiheuro.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys tystiolaeth oddi wrth lygaddystion i’r ymddygiad bygythiol honedig.
“Ymosodol yn gorfforol ac ar lafar”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gasgliadau Roderick Evans, y cyn-Gomisiynydd Safonau, ynghylch y mater – mi gamodd o’r neilltu wedi i Neil McEvoy ei recordio’n dweud sylwadau bychanol.
“Yn ystod y digwyddiad wnaeth Neil McEvoy ymddwyn mewn modd bygythiol tuag at Mick Antoniw ac mi roedd yn ymosodol yn gorfforol ac ar lafar,” meddai.
“Dw i wedi fy argyhoeddi bod ymddygiad Neil McEvoy ar Fai 21 yn fwy eithafol na’r hyn y gellir ei ystyried yn densiwn derbyniol rhwng pobol.
“Mae disgrifiadau o’i ymddygiad yn datgelu agwedd ymosodol na fyddai’n cael ei dderbyn mewn [tafarn] heb sôn am y Cynulliad Cenedlaethol (enw’r Senedd ar y pryd).”
Honiad Mick Antoniw
Yn ei lythyr o gŵyn i Roderick Evans mae Mick Antoniw yn cynnig ei safbwynt ef o’r hyn a ddigwyddodd.
Wrth gerdded am siambr y Senedd â David Melding, AoS Ceidwadol, mae’n dweud bod Neil McEvoy wedi cerdded ato mewn “modd bygythiol gan ddweud rhywbeth ynghylch fi’n ei alw’n fwli”.
“Dw i’n credu mai cyfeiriad oedd hyn at yr wythnos gynt yn y siambr pan oedd yntau’n bod yn sarhaus tuag at y Prif Weinidog a wnes i ei alw’n fwli euogfarnedig,” meddai.
Cyfeiriad oedd hyn at y ffaith bod ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett, wedi dod i’r casgliad bod Neil McEvoy wedi bwlio gweithiwr cartref gofal.
Ar ôl gwrthod siarad â’r AoS, mae Mick Antoniw yn honni ei fod wedi “parhau i ddod ata’ i mewn ffordd oedd yn peri i mi ddychryn”.
“Dywedodd yntau: ‘Dere ‘mlaen. Dw i’n gwybod popeth amdanat ti y Tori coch, rwyt ti jest yn fwli, dw i’n gwybod popeth amdanat. Rwyt ti’n gachgi yn dy grŵp mawr. Mi ga’i ti,” meddai’r AoS Llafur.
Safbwynt Neil McEvoy
Mewn llythyr i’r Comisiynydd Safonau mae Neil McEvoy wedi rhoi ei safbwynt yntau.
“Dyma fy ymateb i,” meddai. “Mae gennych chi’r ffeithiau i gyd. Wnaeth e’ fy ngalw i’n ‘fwli euogfarnedig’ yn gyhoeddus.
“Cafodd hynny ei adrodd i’r Llywydd ond gwnaethpwyd dim am hynny, er bod hynny’n glir i’w glywed ar y meicroffonau yn y siambr (mae Antoniw yn cyfaddef i hynny).
“Felly wnes i, yn breifat, ei alw’n Dori di-asgwrn cefn. Yn ymateb i hynny mae wedi rhedeg at farnwr Uchel Lys ac wedi trio tynnu ei ffrind Torïaidd [David Melding] i mewn i hyn.
“Dw i’n teimlo trueni drosto fe, a dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro. Os yw’r Comisiynydd Safonau eisiau pardduo enw ei swyddfa mi ddylai ymchwilio i hyn. Fydda’ i ddim yn rhoi rhagor o sylwadau.”
Rhannu’r CCTV ar Twitter
Mae Neil McEvoy bellach wedi rhannu fideo ar Twitter sydd yn cynnwys deunydd teledu cylch cyfyng (CCTV) o’r digwyddiad.
“Mae tystion yn honni mai fi oedd y person mwyaf crac yr oedden nhw erioed wedi ei weld,” meddai mewn neges â’r fideo.
“Roeddwn i fyny yn wyneb Antoniw. Roeddwn yn pwyntio ato yn barhaus. Does dim un o’r pethau yna yn wir ac mae’r CCTV yn profi hynny.”
Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys gohebiaeth rhwng yr AoS WNP a’r Comisiynydd, ac yn dangos bod y deunydd CCTV wedi bod yn destun cryn drafod rhwng y ddau.
Mae fideo Mr McEvoy hefyd yn tynnu sylw at gamymddygiad aelodau eraill yn y gorffennol gan ddadlau bod ei gosb ef yn rhy llym o gymharu.