Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd caniatâd gan bobol i deithio rhwng Cymru a’r ardaloedd yn yr haenau isaf yn Lloegr a’r Alban.
Yn flaenorol dim ond teithio hanfodol dros y ffin oedd yn cael ei ganiatáu.
Ar ôl i’r cyfnod clo diweddaraf yn Lloegr ddod i ben ar Ragfyr 2 cyflwynwyd system haenau yno – ac er bod gan yr Alban hefyd system lefelau, nid yw Cymru wedi ddilyn yr un drefn.
Dan y rheolau newydd mae hawl teithio rhwng Cymru a’r ardaloedd Haen 1 a 2 yn Lloegr, a Lefelau 1 a 2 yn Yr Alban.
Fodd bynnag, bydd canllawiau teithio newydd yn cael eu cyhoeddi a fydd yn “cynghori’n gryf” yn erbyn gwneud hynny.
Ni fydd modd teithio rhwng Cymru a’r ardaloedd dan y cyfyngiadau uchaf yn Lloegr a’r Alban, fel Birmingham, Bryste a Chaeredin, ac nid yw teithio i Ogledd Iwerddon yn cael ei ganiatáu o gwbl.
Bydd y rheolau’n dod i rym am 6 yr hwyr ddydd Gwener, Rhagfyr 4.
Fe fydd cyfyngiadau newydd ar letygarwch hefyd yn dod i rym yng Nghymru nos Wener.
Mae’r cyfyngiadau teithio’n debygol o aros mewn grym tan o leiaf fis Ionawr, ac eithrio rhwng Rhagfyr 23 a 27, ond byddant yn cael eu hadolygu’n gyson.
‘Nid yw’r coronafeirws yn parchu ffiniau’
Wrth gyhoeddi’r newid mae’r Prif Weinidog, Mark Drakefrod, wedi atgoffa pobol nad yw’r coronafeirws yn parchu ffiniau.
“Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru, ond bydd rhaid i ni osod rhai cyfyngiadau ar deithio ar draws ffiniau i’r rhannau hynny o’r Deyrnas Unedig lle mae cyfraddau heintio yn uchel, er mwyn atal lledaeniad coronafeirws,” meddai.
“Rydym hefyd yn cynghori pobol yng Nghymru i beidio â theithio i’r rhannau o Loegr a’r Alban lle mae’r gyfradd heintio yn is, i helpu i’w hatal rhag mynd â coronafeirws gyda nhw.
“Nid yw’r coronafeirws yn parchu ffiniau – mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ddiogelu Cymru a’r Deyrnas Unedig.”
Atal y cyfyngiadau ar gyfer y Nadolig
Bydd yr holl gyfyngiadau ar deithio yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hatal rhwng Rhagfyr 23 a 27 i alluogi pobol i gwrdd.
Bydd pobol sy’n teithio i Ogledd Iwerddon, ac oddi yno, yn cael teithio’r diwrnod cyn y cyfnod hwn, a’r diwrnod wedyn.
Angen “cadw’r bunt Gymreig yng Nghymru”
Wrth ymaeb i’r rheolau teithio newydd sy’n effeithio ar Gymru, dywedodd Darren Millar AoS, llefarydd Covid y Ceidwadwyr:
“Er bod codi cyfyngiadau teithio rhwng Cymru a Lloegr i’w groesawu, does dim dwywaith y bydd y newyddion hyn yn halen yn y briw i ddiwydiant lletygarwch Cymru.
“Gyda thafarndai, caffis a bwytai Cymru yn cael eu gwahardd rhag gwerthu alcohol ar y safle o 6pm yfory, bydd llawer o’u cwsmeriaid yn mynd a’u harian dros y ffin i fwynhau llymaid gyda phryd o fwyd yn Lloegr yn lle hynny.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru dan ailystyried ei rheolau newydd, ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant lletygarwch, a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd sy’n cadw’r bunt Gymreig yng Nghymru, ac sy’n denu’r bunt Seisnig i fusnesau Cymru hefyd, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.”