Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig wedi cytuno i lacio’r cyfyngiadau dros y Nadolig.
Bu gweinidogion Cymru yn mynychu cyfarfod Cobra ddydd Mawrth, Tachwedd 24 i drafod gyda’r gwledydd eraill, ac mae’r pedair gwlad wedi datblygu cynllun cyffredin ar deithio a chymdeithasu dros yr Ŵyl.
Bydd y canlynol mewn grym rhwng Rhagfyr 23-27:
- Llacio’r cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gwlad a’r haenau
- Gall aelodau o hyd at dair aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen er mwyn cyfarfod yn ystod y cyfnod hwn. All aelodau’r swigen ddim newid yn ystod y cyfnod hwn.
- Gall pob swigen gyfarfod yn y cartref, mewn addoldy neu yn yr awyr agored. Ond bydd cyfyngiadau llymach ar letygarwch mewn lleoliadau eraill yn parhau.
“Heddiw, fe wnes i gyfarfod â phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Michael Gove o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cytuno ar gynllun pedair gwlad ar gyfer cyfnod y Nadolig,” meddai Mark Drakeford.