“All y Nadolig hwn ddim bod yn un normal,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wrth i’r trefniadau gael eu cadarnhau.
Daeth cadarnhad bellach y bydd pobol o dair aelwyd yn cael cymysgu am bum niwrnod dros gyfnod y Nadolig.
Fe fu’r llywodraethau’n trafod y manylion mewn cyfarfod arbennig heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 24).
“Wrth i 2020 ddirwyn i ben, rydym yn cydnabod y bu’n flwyddyn eithriadol o anodd i ni gyd,” meddai’r llywodraethau mewn datganiad ar y cyd.
“Bu’n rhaid i ni oll wneud aberth sylweddol yn ein bywydau bob dydd, ac fe fu’n rhaid i nifer o grwpiau crefyddol a chymunedol newid neu golli eu dathliadau arferol er mwyn arafu ymlediad y coronafeirws ac achub bywydau.
“All y Nadolig hwn ddim bod yn un normal.
“Ond wrth i ni ddod at gyfnod o ddathliadau, rydym wedi bod yn cydweithio’n agos i ddod o hyd i ffordd y gall teuluoedd a ffrindiau weld ei gilydd, hyd yn oed am gyfnod byr, a chydnabod fod rhaid cyfyngu a bod yn ofalus ar yr un pryd.”
‘Penderfyniad personol’
Dywed y datganiad ymhellach mai “penderfyniad personol” fydd cyfarfod â theulu a ffrindiau dros y Nadolig, gan ofalu am bobol fregus.
“Mae angen i bawb feddwl yn ofalus am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, gan gydbwyso peth cyswllt cymdeithasol cynyddol â’r angen i gadw’r risg cynyddol o ledu’r feirws mor isel â phosib.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried y rhai sy’n fregus a chyn penderfynu dod ynghyd dros gyfnod y Nadolig, rydym yn annog ystyriaeth o ddulliau amgen megis y defnydd o dechnoleg neu gyfarfod y tu allan.”
Y mesurau
Mae’r llywodraethau’n dweud ei bod yn “bwysig fod pawb yn parchu a chadw at reolau y wlad lle maen nhw’n penderfynu treulio’r Nadolig”.
Bydd y canlynol mewn grym rhwng Rhagfyr 23-27:
- Llacio’r cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gwlad a’r haenau
- Gall aelodau o hyd at dair aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen er mwyn cyfarfod yn ystod y cyfnod hwn. All aelodau’r swigen ddim newid yn ystod y cyfnod hwn.
- Gall pob swigen gyfarfod yn y cartref, mewn addoldy neu yn yr awyr agored. Ond bydd cyfyngiadau llymach ar letygarwch mewn lleoliadau eraill yn parhau.
Ymateb Mark Drakeford
“Fe fu’n flwyddyn hir ac anodd iawn i bawb,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.
“Mae ein bywydau ni i gyd wedi cael eu gwyrdroi gan y pandemig coronafeirws.
“Mae pawb wedi gwneud cymaint i helpu i reoli ymlediad y feirws ac i achub bywydau.
“Ond mae hynny wedi golygu sawl aberth, gan gynnwys peidio â gweld teulu a ffrindiau agos.
“Rydym oll yn edrych ymlaen at y Nadolig a’r cyfle i dreulio peth amser gyda’n hanwyliaid.
“Heddiw, fe wnes i gyfarfod â phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Michael Gove o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cytuno ar gynllun pedair gwlad ar gyfer cyfnod y Nadolig.”
‘Petrusgar’ cyn cytuno
“Rhaid i ni gydnabod fod y Nadolig yn amser pwysig iawn i bobol a bod rhaid i chi gael set o reolau y bydd pobol yn barod i weithredu oddi mewn iddyn nhw,” meddai Mark Drakeford yn dilyn y cyhoeddiad.
“A’r cyngor ymddygiadol sydd gennym gan ein gwyddonwyr yw y gallai pobol wneud eu rheolau eu hunain a allai fod yn fwy anodd fyth oni bai ein bod ni’n gallu dyfeisio set o drefniadau cyffredin.
“Felly er fy mod i’n betrusgar, oherwydd cyflwr y feirws yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, mae’n well fod gennym set o drefniadau cyffredin sy’n rhoi fframwaith i bobol y gallan nhw reoli a gweithredu’n gyfrifol oddi mewn iddyn nhw hefyd.”