Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth yn “rhannu Cymru”.

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru ar yr Amgylchedd, Llyr Gruffydd AS wedi ymateb i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Dywed Llyr Gruffydd fod y map rhanbarthol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn “gyrru lletem” yn anwybyddu’r diffyg cysylltedd rhwng y gogledd a’r de, tra’n esgeuluso rhannau o Gymru sydd angen eu hadfywio a’u datblygu.

Awgryma fod Llywodraeth Cymru yn disodli’r model pedair rhanbarth gyda dull gwahanol yn canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad ar draws Cymru.

Mae’r mater yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 25).

“Mae teitl yr Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Dyfodol Cymru 2040 – yn addas. Mae Cymru ar groesffordd ac mae gennym ddewis llwm ynglŷn â’r math o ddyfodol yr ydym am ei weld,” meddai Llyr Gruffydd.

“Mae Dyfodol Cymru yn ymwneud mwy â dyfodol Pwerdy’r Gogledd, Porth Gorllewinol Bryste ac Injan Canolbarth Lloegr.

“Mae’n cynnig cynllun economaidd sy’n seiliedig ar sicrhau briwsion o fwrdd rhywun arall, yn hytrach nag adeiladu economi Cymru ynddo’i hun.

“Yn hytrach na chynnig gweledigaeth sy’n dod â Chymru at ei gilydd, mae Llafur yn cerfio Cymru i fyny i wasanaethu agenda Boris Johnson.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru newid tact a disodli’r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Dyfodol Cymru 2040 gyda dull amgen sy’n canolbwyntio ar wneud Cymru yn genedl gysylltiedig, gynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr.”