Mae Ben Lake, llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, yn galw ar Ganghellor San Steffan i “ymrwymo’n llawn i ddatganoli” ac i wirio’r setliad cyllidol “diffygiol”.

Bydd Llywodraeth Prydain yn adolygu eu gwariant yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 25).

Yn ôl Aelod Seneddol Ceredigion, mae’r pandemig “wedi amlygu canlyniadau trasig setliad cyllidol anghytbwysedig”, gyda busnesau yn Lloegr yn gallu elwa o Grant Cymorth Cyfyngiadau Lleol penagored a hael, tra bod busnesau Cymru wedi gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am ffynhonnell gyfyngedig.

“Addawyd i Gymru ‘ddim ceiniog yn llai’ na chyllid strwythurol yr UE, ac felly mae’n rhaid i gymorth gan y Gronfa Ffyniant fod yn fuddsoddiad ychwanegol, ac ni ddylid ei orbwyso gan doriadau mewn gwariant mewn mannau eraill,” meddai.

Ar hyn o bryd, terfyn Llywodraeth Cymru yw £125m ar gyfer gwariant refeniw a £50m ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.

Mae Ben Lake hefyd yn annog y Canghellor i sicrhau cyllid sydd yn olynu cyllid Ewropeaidd yn “fuddsoddiad ychwanegol nad yw’n ddibynnol ar doriadau mewn mannau eraill”.

Rhewi cyflogau

Mae adroddiadau bod y Canghellor Rishi Sunak yn ystyried rhewi cyflogau pum miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus.

“Byddai rhewi cyflogau’r sector cyhoeddus yn gamgymeriad,” meddai Ben Lake.

“Nid yw’n deg ar weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig.

“Os yw’r Ceidwadwyr yn cefnogi datganoli, byddant yn gwirio’r setliad cyllidol diffygiol sy’n gadael Cymru’n ddibynnol ar wariant Lloegr yn hytrach na rhagweithiol ar faterion Cymreig.”

Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i “barchu datganoli a chadw at ei hymrwymiad i ddarparu’r un faint o gyllid a’r Undeb Ewropeaidd.”