Mae adroddiadau fod y Canghellor Rishi Sunak yn ystyried rhewi cyflogau 5 miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn ei Adolygiad Gwariant wythnos nesa, er mwyn ceisio adfer ei gyllid cyhoeddus.
Nid yw’n glir eto sut bydd y dewisiadau hyn yn effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dim ond meddygon a nyrsys rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd fydd wedi eu heithrio o’r cap, yn ôl y Daily Mail.
Fodd bynnag, gallai’r newid effeithio athrawon, yr heddlu, aelodau o’r lluoedd arfog a rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r Canghellor eisoes dan bwysau yn dilyn adroddiadau ei fod yn bwriadu neilltuo’r ymrwymiad i wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth tramor er mwyn gwneud arbedion.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Trysorlys ddydd Mercher nesaf.
Fodd bynnag, wrth lansio’r adolygiad o wariant fis Gorffennaf, rhybuddiodd Rishi Sunak y byddai efallai angen rhewi setliadau cyflog o fewn y sector cyhoeddus.
Dywedodd y byddai’n rhaid i’r adolygiad ystyried y “cyd-destun economaidd ehangach”.
Pwysleisiodd y Canghellor hefyd yr angen am “degwch” – gan nodi, er bod cyflogau’r sector cyhoeddus yn codi, fod cyflogau yn y sector preifat wedi gostwng yn ystod y pandemig.
Gwrthwynebiad Undebau Llafur
Mae Undebau Llafur wedi gwrthwynebu’r cynnig yn llwyr.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Unsain Dave Prentis byddai rhewi cyflogau yn ergyd greulon i staff y Gwasanaeth Iechyd nad ydynt ar y rheng flaen.
“Mae gweithwyr allweddol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus wrth wraidd y frwydr yn erbyn Covid,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud yr hyn sy’n iawn yr wythnos nesaf a chyhoeddi’r cynnydd mewn cyflogau y mae pob aelod o staff yn haeddu.
“Mae unrhyw beth llai yn peryglu dinistrio morâl pan fydd y wlad gyfan yn ymddiried ynddynt.”