Roedd dyled y sector cyhoeddus wedi cyrraedd £2.08 triliwn erbyn diwedd mis Hydref ar ôl i Lywodraeth Prydain fenthyca £22.3 biliwn fis diwethaf, yn ôl ffigurau swyddogol.

Er bod benthyciadau yn is ym mis Hydref na’r hyn yr oedd economegwyr wedi’i ddarogan, roedd y cyfanswm benthyca ym mis Hydref ar ei lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1993.

Mae’n gynnydd o £10.8 biliwn o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) amcangyfrifir bod benthyciadau am saith mis cynta’r flwyddyn ariannol yn £214.9 biliwn, y swm uchaf ers unrhyw gyfnod rhwng mis Ebrill a Hydref.

Mae’n golygu bod dyledion y DU wedi cyrraedd tua 100.8% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) – lefel sydd heb gael ei weld ers dechrau’r 1960au.

Mae’r Llywodraeth wedi gwario mwy na £200 biliwn er mwyn cefnogi’r economi yn ystod y pandemig.

Yn ôl arbenigwyr fe fydd hyn yn creu problem i’r Canghellor cyn iddo gyhoeddi ei adolygiad ariannol ar Dachwedd 25.

Mae Rishi Sunak eisoes wedi pwysleisio bod angen i arian cyhoeddus y DU fod ar “drywydd cynaliadwy” yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod y Canghellor yn ystyried rhewi cyflogau 5 miliwn o weithwyr y sector cyhoeddus.