Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi prynu 11 o geir trydan ecogyfeillgar, gyda’r nod o leihau allyriadau carbon a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Bydd Timau Plismona Cymunedau ar draws yr heddlu yn cael gyrru’r cerbydau newydd cyn bo hir.
Byddan nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a gwaith datrys problemau.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu’r ardal: “Rwy’n falch o allu cyflwyno’r ceir trydan newydd ar gyfer ein Timau Plismona Cymunedau ar draws ardal yr heddlu – mae’n ddatblygiad cyffrous iawn wrth i ni edrych tuag at gymryd agwedd ecogyfeillgar at blismona ar gyfer y dyfodol.
“Ymrwymais i ariannu’r gwaith o gyflwyno’r ceir trydan ar ôl treialu un o’r ceir yn ardal Dinbych-y-pysgod dros yr haf y llynedd, ac roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.”
“Mae’n gwneud synnwyr i ni”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn mai maint ardal yr heddlu oedd un o’r rhesymau yr oedd yn awyddus i fuddsoddi mewn dulliau mwy ecogyfeillgar o deithio.
“Dyfed-Powys yw’r ardal fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol, gyda chanrannau mawr o’r ardal yn wledig,” meddai.
“Mae’n gwneud synnwyr i ni, felly, edrych ar ffyrdd o leihau’r defnydd o nid yn unig tanwydd, ond hefyd i brofi manteision ynni adnewyddadwy, a lleihau ein hôl troed carbon.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y ceir allan yn ein cymunedau.”
Daw’r ychwanegiadau newydd yn dilyn buddsoddiad mewn cerbydau 4×4 arbenigol ar gyfer pedwar tîm troseddau gwledig yr heddlu yn 2019.
Mae golwg360 wedi gofyn faint gostiodd y ceir newydd.