Mae Mark Drakeford wedi dweud bod ’na dystiolaeth bod y cyfnod clo byr yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio atal y coronafeirws rhag lledu.

Daw ei sylwadau wrth i Ogledd Iwerddon gyhoeddi y bydd cyfnod clo byr yn dechrau yno wythnos nesa.

Wrth siarad ar raglen BBC Radio 4 Today bore ma (Tachwedd 20) dywedodd y Prif Weinidog bod achosion wedi gostwng bob dydd dros y 10 diwrnod diwethaf a bod nifer y bobl sy’n cael eu heintio wedi gostwng.

Roedd Merthyr Tudful, un o’r ardaloedd oedd wedi’i heffeithio waethaf, yn esiampl meddai gyda nifer yr achosion yn gostwng o 760 am bob 100,000 o bobl i lai na 260.

“Ein hasesiad yw bod y cyfnod clo byr wedi gwneud yr hyn roedden ni’n gobeithio byddai wedi gwneud,” meddai.

Ychwanegodd Mark Drakeford bod ’na “arwyddion cychwynnol” bod nifer y bobl sydd angen cael triniaeth yn yr  ysbyty yn gostwng a bod nifer y gwlâu yn “sefydlogi”.

Teithio dros gyfnod y Nadolig

Ddydd Mercher, roedd wedi cynnal trafodaethau gyda’r swyddog yn y Cabinet Michael Gove a gweinidogion y llywodraethau datganoledig eraill ynglŷn â chyflwyno’r un cynllun ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer cyfyngiadau dros y Nadolig ac mae disgwyl iddyn nhw gael cyfarfod arall wythnos nesa.

Dywedodd Mark Drakeford mai dyma “yw’r peth iawn i’w wneud, os yw’n bosib, ac yn sicr fe fydd Cymru wrth  y bwrdd trafod wythnos nesa i geisio dod i gytundeb.”

Mae hynny’n cynnwys cytundeb ynglŷn â theithio – “mae’n bwysig iawn bob pobl yng Nghymru, mae cymaint o deuluoedd yma gyda theulu yn Lloegr neu lefydd eraill a byddan nhw’n gobeithio gallu ymweld ag aelodau o’r teulu sy’n byw y tu allan i Gymru. Dw i’n fwy gobeithio am y [cyfyngiadau] teithio nag ydw i am agweddau eraill o’n trafodaeth.”