Mae’r Athro Roger Awan-Sully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi cwestiynu a yw’r pandemig wedi cael dylanwad o gwbl ar ddealltwriaeth pobol o ddatganoli.

Daw hyn yn dilyn sylwadau diweddar yr Aelod o’r Senedd Delyth Jewell a awgrymodd fod peryg y gall gwendidau’r cyfryngau presennol yng Nghymru arwain at “ddiffyg democrataidd annerbyniol ac anghynaladwy”.

Cyfeiriodd yr Aelod o’r Senedd at Astudiaeth Etholiad Cymru 2016 gan Brifysgol Caerdydd oedd yn dangos mai dim ond 6% o’r boblogaeth sydd yn darllen papurau newydd Cymru, tra bod y ffigwr cyfatebol yn yr Alban yn 46%.

“Er bod yna fwy na dau ddegawd o ddatganoli mae meddylfryd newyddiadurwyr yn parhau i fod yn Llundain-ganolog,” meddai Roger Awan-Scully wrth golwg360.

“Efallai bod mwy o bobol yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli nawr, ond dw i ddim yn siŵr os oes gan bobol ddealltwriaeth fwy cyffredinol o ddatganoli ac os yw’r pandemig wedi cael unrhyw effaith o gwbl.”

Mewn ymateb i bryderon Delyth Jewell dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod wedi bod yn her erioed i ddangos arwyddocâd datganoli yng Nghymru.

Mae arolwg barn diweddar arall gan Brifysgol Caerdydd yn dangos mai arweinwyr y Blaid Lafur sydd fwyaf poblogaidd ymhlith pleidleiswyr yng Nghymru.

‘Darlun cymysg iawn’

Pwysleisiodd yr Athro Scully, yr arbenigwr gwleidyddol a oedd yn gyfrifol am Astudiaeth Etholiad Cymru 2016, nad oedd astudiaeth debyg, sy’n edrych ar ddylanwad y wasg ar ddemocratiaeth yng Nghymru, wedi ei chynnal ers hynny.

Ond dywedodd bod y “darlun yn parhau yn un cymysg iawn”.

“Yn y bôn beth ddaeth i’r amlwg yn yr astudiaeth yn 2016 oedd bod mwy o bobol yn cael ei newyddion o gyfryngau Llundeinig.

“Roedd y canran o bobol oedd yn cael newyddion o Gymru yn isel.”

Yn ôl yr astudiaeth roedd 50% yn gwybod fod addysg wedi ei ddatganoli a 49% yn gwybod fod iechyd wedi ei ddatganoli.

Fodd bynnag, awgrymodd Roger Awan-Sully efallai nad oedd yr astudiaeth yn adlewyrchiad cywir gan iddi gael ei chynnal yng nghanol cyfnod ymgyrchu etholiadol.

“Un peth y mae’n rhaid ei grybwyll am y canlyniadau oedd Delyth Jewell yn trafod oedd bod y cwestiynau a holwyd wedi eu gofyn yn ystod cyfnod ymgyrchu cyn yr etholiad yn 2016, felly byddem ni’n disgwyl mwy o ddealltwriaeth wleidyddol yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Pe baem ni wedi gofyn yr un cwestiynau chwe mis cyn yr ymgyrchu etholiadol mae’n bosib byddai’r canlyniadau hyd yn oed yn is.”

Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos fod 40% o bobol yng Nghymru o’r farn anghywir mai Plaid Cymru oedd mewn pŵer yn y Senedd rhwng 2011 a 2016.

Datrysiadau yn broses araf

Wrth gyfeirio at adran newyddion mewnol sydd wedi ei sefydlu gan y Senedd i geisio lleihau’r diffyg cwestiynodd a oedd yn cael unrhyw effaith ar feddylfryd pobol ar lawr gwlad am ddatganoli.

“Dw i ddim yn siŵr os yw’n cael unrhyw ddylanwad ar bobol yng Nghymru,” meddai.

“Dw i’n deall y gwaith maen nhw yn ei wneud yn y Senedd ac yn trïo cael ryw fath o gyfeiriad clir i bobol yng Nghymru, ond mae’n waith araf.

“Y gwir yw bod y mwyafrif o bobol yn dal i gael eu newyddion a gwybodaeth drwy bapurau a sianeli Prydeinig, a hefyd oddi ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r hyn mae’r Senedd yn trio ei wneud ond yn mynd i gael dylanwad ar bobol sydd â diddordeb, ac ond yn gwneud hi ychydig yn haws iddyn nhw gael hyd i wybodaeth.

Ychwanegodd fod cynnig yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i ariannu gwasanaeth newyddion hyd braich, tebyg i golwg360, yn y Saesneg yn gam i’r cyfeiriad cywir.

“Mae’n gam sydd werth ei gymryd, ond gallem ni ddim disgwyl gormod yn rhy gyflym.”

Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi awgrymu bod Cymru angen “strwythur cyfryngau sy’n adlewyrchu ei balchder a’i huchelgeisiau fel cenedl”.