Mae arolwg barn yn dangos mai arweinwyr y Blaid Lafur sydd fwyaf poblogaidd ymhlith pleidleiswyr yng Nghymru.

Mae’r ymchwil gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dangos bod Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, bellach ar frig rhestr y chwech arweinydd.

Dyma hefyd yw’r tro cyntaf i Mark Drakeford fod yn fwy poblogaidd na Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig.

Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos bod Mark Drakeford, Keir Starmer, ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn llawer mwy poblogaidd ymhlith pleidleiswyr yng Nghymru na’r prif weinidog Ceidwadol Boris Johnson.

Yn y cyfamser, Ed Davey, arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd lleiaf poblogaidd.

Roedd gofyn i bobol sgorio’r arweinwyr gwleidyddol allan o 10, gyda 10 yn golygu eu bod yn eu hoffi ac 0 eu bod nhw ddim yn eu hoffi.

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru – 5.3

Syr Keir Starmer, Arweinydd Llafur y DU – 5.1

Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru – 4.7

Boris Johnson, Prif Weinidog y DU – 3.9

Paul Davies, Arweinydd Ceidwadwyr Cymru – 3.7

Syr Ed Davey, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol – 3.7

Etholiadau’r Senedd

Wrth holi’r cyhoedd am eu bwriad wrth fwrw eu pleidlais yn etholiadau’r Senedd, mae Baromedr Gwleidyddol Cymru yn awgrymu bod y gefnogaeth i’r prif bleidiau’n parhau’n gyson.

Mae’r ymchwil yn awgrymu y bydd Llafur yn colli saith o’u seddi.

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, Cadeirydd y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol, mae’n debyg y bydd y Ceidwadwyr yn cipio Bro Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Gŵyr, a Wrecsam, a Phlaid Cymru yn cipio Llanelli, Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd.

Ychydig iawn o newid sydd wedi bod ym mwriad pleidleisio Cymru ar gyfer etholiadau San Steffan.

Cafodd 1,110 o bobol o Gymru eu holi ar gyfer yr arolwg barn ac am y tro cyntaf, roedd yr arolwg yn cynnwys pobol ifanc 16-17 oed gan eu bod yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd o hyn ymlaen.