Mae dwy o Ddemocratiaid Rhyddfrydol mwyaf blaenllaw Cymru wedi croesawu’r newyddion mai Syr Ed Davey yw arweinydd newydd y blaid yn San Steffan.

Daeth cadarnhad fore heddiw (dydd Iau, Awst 27) iddo guro Layla Moran i olynu Jo Swinson, a gollodd ei sedd yn Nwyrain Sir Dunbarton yn yr etholiad cyffredinol fis Rhagfyr y llynedd.

Dywed Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, ei bod hi “wedi cyffroi’n eithriadol” o gael cydweithio â’r arweinydd newydd.

“Dw i wedi cyffroi’n eithriadol o gael dechrau gweithio gydag Ed yn arweinydd newydd arnon ni,” meddai.

“Dw i’n gwybod y bydd e’n helpu i gyfleu ein neges ryddfrydol bositif ar adeg pan fo’i hangen yn fwy nag erioed.

“Mae Ed yn ffrind i Gymru ac yn deall ein cenedl, ein traddodiadau ac, yn hanfodol, ddatganoli a phwysigrwydd etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

“Gyda mwy a mwy o bobol yn ymuno â’n plaid, mae gennym synnwyr newydd o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol, rhywbeth sy’n gyferbyniad llwyr â’r modd trwsgwl y mae Boris wedi ymdrin â phandemig Covid-19.

“Mae Ed wedi hybu achos Morlyn Llanw Bae Abertawe a allai gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer 150,000 o gartrefi, yn ogystal ag arwain, dros yr wythnosau diwethaf, yr ymgyrch yn erbyn trethu bonws gofalwyr Covid.

“Roedden ni’n arbennig o lwcus fel plaid o gael dau ymgeisydd arweinyddol ardderchog, a dw i’n gwybod y bydd Layla Moran yn parhau i chwarae rhan allweddol o fewn y blaid dros y blynyddoedd i ddod, yn enwedig o ran materion addysg a chydraddoldeb – dau faes mae hi’n angerddol amdanyn nhw.”

‘Rhyddfrydwr i’r carn’

Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, mae Ed Davey yn “Rhyddfrydwr i’r carn”.

“Dw i’n nabod Ed ers blynyddoedd lawer, ac mae e’n Rhyddfrydwr ac yn dosturiol i’r carn,” meddai.

“Mae e’n ymgyrchydd rhagorol ac yn rhywun sy’n meddu ar y gonestrwydd a’r argyhoeddiad mwyaf, sydd wedi rhedeg ymgyrch egnïol a phroffesiynol.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â fe.”