Syr Ed Davey yw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol – y pumed arweinydd newydd mewn pum mlynedd.

Fe gurodd e Layla Moran yn y ras i olynu Jo Swinson, a gollodd ei sedd yn Nwyrain Sir Dunbarton yr etholiad cyffredinol.

Cafodd enw’r arweinydd newydd ei gyhoeddi’n ddigidol fore heddiw (dydd Iau, Awst 27).

Enillodd y blaid 11 o seddi’n unig yn yr etholiad ac fe gafodd ymchwiliad mewnol ei gynnal.

Mae Syr Ed Davey yn wleidydd profiadol, ac yntau’n aelod seneddol yn Kingston a Surbiton.

Mae’n gyn-weinidog a gafodd ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1997.

Roedd yn Weinidog Busnes yn ystod cyfnod y llywodraeth glymblaid, a chafodd ei benodi’n Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd yn 2012.

Fe fu’n gyd-arweinydd dros dro gyda’r Farwnes Sal Brinton ers i Jo Swinson ymddiswyddo ar ôl colli ei sedd.