Mae corwynt sydd wedi’i ddyfarnu gan y Ganolfan Corwyntoedd Genedlaethol fel un categori 4 wedi cyrraedd y lan yn Louisiana.

Fe darodd ger cymuned Cameron, 30 milltir o ffin ddwyreiniol Tecsas, yn gynnar fore Iau.

Rhuodd gwyntoedd o hyd at 128 m.y.a., a daw rhybuddion bod gwyntoedd cryfach yn bosibl yn yr oriau nesaf a allai ddinistrio adeiladau, a chodi coed a cheir.

Cafodd 500,000 o bobol sydd yn byw ar arfordir Louisiana a Tecsas eu gorfodi i adael eu cartrefi ond er gwaethaf ymdrechion yr awdurdodau, a thrydariadau gan yr Arlywydd Donald Trump, mynnodd o leiaf 150 o bobol eu bod nhw am aros.

Cyn cyrraedd yr Unol Daleithiau, achosodd storm Laura lifogydd difrifol a thorri’r cyflenwad trydan yn Haiti a’r Weriniaeth Ddominicaidd, lle bu farw 23 o bobol.

Gydag oriau’n rhagor o dywydd stormus ar y ffordd, bydd yn amhosib gweld maint y difrod nes y bore.

Bryd hynny y bydd ymdrechion chwilio ac achub yn cychwyn, ond mae pryderon y bydd rhaid eu gohirio oherwydd fod ffyrdd wedi’u rhwystro, llifogydd a diffyg cyflenwad trydan.

Storm Laura yw’r storm gryfaf i daro’r Unol Daleithiau eleni ac o fewn dyddiau, cafodd maint tybiedig y storm ei gynyddu gan y Ganolfan Corwyntoedd Genedlaethol o ddeg troedfedd i uchder angheuol o 20 troedfedd.

Byddai corwynt lefel 4 yn golygu y byddai’n amhosib byw yn yr ardal ac y byddai heb drydan am wythnosau os nad misoedd.

Dyma’r seithfed storm sylweddol i daro’r Unol Daleithiau eleni, gan osod record newydd yn ôl Phil Klotzbach, ymchwilydd corwyntoedd ym Mhrifysgol Talaith Colorado.

Daw’r storm fel ergyd arall i gymuned sydd â niferoedd uchel o achosion newydd o’r coronafeirws, ac i lywodraeth sydd eisoes dan bwysau yn sgil y pandemig.