Iwerddon yw’r drydedd wlad orau yn y byd am safonau byw, yn ôl astudiaeth newydd gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r Safleoedd Datblygiad Dynol blynyddol yn cael eu cyfrif ar sail tri chategori – iechyd, addysg ac incwm.

Norwy ddaeth i frig y rhestr, gyda’r Swistir yn ail, a’r Deyrnas Unedig yn bymthegfed.

Mae gan Iwerddon ddisgwyliad oes o 82 o flynyddoedd, sy’n unfed ar bymtheg allan o 189 o wledydd.

Yn Hong Kong mae’r disgwyliad oes uchaf, sef tua 85 mlwydd oed.

O ran disgwyliad blynyddoedd o addysg, mae Iwerddon yn seithfed.

Qatar oedd yn arwain y categori cyfoeth, gydag incwm cenedlaethol o €98,630, tra bod Iwerddon yn ddeuddegfed ar y rhestr gydag incwm o €55,265.

Yr isaf yn y categori hwn oedd Burundi gyda €596.

Twf sylweddol

Mae Iwerddon wedi dangos twf sylweddol mewn safonau byw, gan godi o’r pedwerydd safle y llynedd, ac mae wedi neidio 13 safle rhwng 2012 a 2017.

Y wlad isaf yn y safleoedd safon byw oedd Niger, gyda’r deg gwlad isaf i gyd yn Affrica.