Mae Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, yn dweud ei bod hi’n “parchu” ymddiswyddiad Phil Hogan, y Comisiynydd Masnach, yn dilyn helynt ynghylch cinio mewn clwb golff yn Iwerddon.

Roedd Phil Hogan wedi mynd i’r cinio, ynghyd â sawl gwleidydd arall, yn ystod y cyfnod clo er bod sôn fod pawb yn cadw at reolau cyfyngiadau’r coronafeirws.

Roedd e wedi bod dan bwysau i ymddiswyddo yn dilyn ymadawiadau sawl un arall oedd wedi bod yn y cinio.

Mewn datganiad, diolchodd Ursula von der Leyen iddo am ei “waith diflino a llwyddiannus” yn y swydd.

Dywedodd Phil Hogan wrth ymddiswyddo y byddai’r mater yn parhau’n gysgod dros ei waith dros y misoedd nesaf pe bai’n aros yn y swydd.

Roedd disgwyl iddo fod yn flaenllaw yn y trafodaethau â Phrydain ar ôl Brexit.

Datganiad

“Heno, dw i wedi cyflwyno fy ymddiswyddiad o fod yn Gomisiynydd Masnach yr Undeb Ewropeaidd i Lywydd Comisiwn Ewrop, Ursula von der Leyen,” meddai Phil Hogan mewn datganiad.

“Roedd yn dod yn fwyfwy amlwg fod yr helynt ynghylch fy ymweliad diweddar ag Iwerddon yn dechrau tynnu sylw oddi ar fy ngwaith fel Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd ac y byddai’n tanseilio fy ngwaith dros y misoedd i ddod.”

Teithiodd e o Frwsel i Iwerddon ond wnaeth e ddim hunanynysu ar ôl cyrraedd yn unol â’r rheolau ac fe deithiodd e i Ddulyn ac i sir Kildare, ardal oedd yn destun cyfyngiadau ychwanegol oherwydd y nifer uchel o achosion o’r feirws yno.

Mae e wedi ymddiheuro wrth y genedl am wneud hynny.

Dywed Llywodraeth Iwerddon fod Phil Hogan wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Ymateb Ursula von der Leyen

“Dw i’n ddiolchgar iawn iddo am ei waith diflino yn gomisiynydd masnach ers dechrau’r mandad hwn ac am ei dymor llwyddiannus yn gomisiynydd â chyfrifoldeb am amaeth yn y coleg blaenorol,” meddai Ursula von der Leyen.

“Roedd e’n aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’r coleg.

“Dw i’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

“Dw i’n diolch yn gynnes iddo am ei gyfraniad gwerthfawr i waith y Comisiwn, nid yn unig o fewn y mandad hwn, ond hefyd yn y mandad blaenorol lle’r oedd e’n gomisiynydd â chyfrifoldeb am Amaeth a Datblygu Gwledig.

“Dros y dyddiau diwethaf, dw i wedi trafod symudiadau Phil Hogan yn Iwerddon gyda fe yn wyneb gwybodaeth a ddaeth i law o ran parchu canllawiau iechyd cyhoeddus yn Iwerddon.

“Yn yr amgylchiadau presennol, wrth i Ewrop frwydro i leihau lledaeniad y coronafeirws ac wrth i Ewropeaid wneud aberth a derbyn cyfyngiadau poenus, dw i’n disgwyl i aelodau’r Coleg fod yn arbennig o wyliadwrus o ran cydymffurfio â rheolau neu gyngo sy’n berthnasol yn genedlaethol neu’n rhanbarthol.”