Bydd diwygiadau i etholiadau cyngor yng Nghymru yn “arwain at newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae democratiaeth leol yn gweithio”.
Dyna mae Jessica Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, wedi ei ddweud yn ymateb i bleidlais yn y Senedd brynhawn ddoe.
Bu Aelodau o’r Senedd yn trafod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ac yn ar ôl y ddadl mi bleidleisiodd mwyafrif o’i blaid (39-16).
Bydd y bil yn galluogi cynghorau i fabwysiadu sustem bleidleisio ‘Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy’ (‘Single Transferable Vote’), ac yn caniatáu i bobol 16 ac 17 oed bleidleisio.
Mae Jessica Blair wedi galw’r cam yn “fuddugoliaeth i bleidleiswyr”.
“Bydd hyn i gyd yn arwain at newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae democratiaeth leol yn gweithio yng Nghymru,” meddai.
“Rydym wedi bod yn galw am y newidiadau yma ers cryn amser a bellach, diolch i’r ddeddfwriaeth yma, mae ein dymuniad wedi’i wireddu.
“Dros y blynyddoedd nesa’ dylem weld cynghorau yn cael eu tywys i’r oes fodern, lle fyddan nhw’n trin pleidleiswyr yn flaenoriaeth, a byddwn yn gweld democratiaeth yn dechrau ffynnu.”
Isherwood yn pwdu
Nid pawb sydd wedi croesawu’r Bil, ac ymhlith y rheiny sydd yn wrthwynebus mae Mark Isherwood, llefarydd y Ceidwadwyr tros Lywodraeth Leol.
Yn ystod pob cam o graffu ar y mesur cafodd cynigion yr AoS Ceidwadol eu gwrthod, ac mae’n teimlo y dylai “Aelodau cyfrifol” fod wedi pleidleisio yn ei erbyn.
“Parchu eraill, dod â’u cryfderau i’r wyneb, a’r gallu i ddirprwyo cyfrifoldebau – dyna yw arweiniad effeithiol,” meddai.
“Fodd bynnag, yn ei hymatebion yn ystod camau blaenorol y Bil mae’r Gweinidog [Llywodraeth Leol Julie James] wedi cefnogi cynigion sydd yn groes i dystiolaeth cyrff arbenigol.”
Mae’n cyfri’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol, a’r Comisiwn Etholiadol ymhlith y cyrff yma.
Pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau Mark Isherwood, dywedodd llefarydd:
“Bydd y Bil hwn yn sicrhau diwygio effeithiol ac mae wedi’i gynllunio gyda llywodraeth leol i wella cyfranogiad y cyhoedd yn nemocratiaeth Cymru, i alluogi awdurdodau lleol i gydweithio ar eu buddiannau cyffredin wrth gynllunio trafnidiaeth, defnydd tir a datblygu economaidd, ac i gael rheolaeth dros yr hyn sy’n bwysig iddynt.”