Mae seren Hollywood Ryan Reynolds wedi danfon jin a neges bersonol i dafarn gymunedol Gymraeg yn Wrecsam.

Anfonodd yr actor, sydd yn un o berchnogion newydd Clwb Pêl Droed Wrecsam, deunaw potel o’r Gin premiwm i dafarn y Saith Seren yn y dref.

“I gwsmeriaid ffyddlon y Saith Seren: Ychydig i chi ac ychydig i mi. Gobeithio eich gweld yn fuan – Ryan Reynolds”, meddai’r neges bersonol.

Mae’r actor hefyd yn gyd berchennog cwmni Aviation Gin.

‘Iechyd da’

Roedd y Cynghorydd lleol Carrie Harper wedi gwirioni gyda’r gin wrth iddi dreulio nos ei nof Fercher yn gwylio Cymru’n chwarae’r Ffinidir yn ei thafarn leol.

“Edrychwch beth sydd yma , 18 potel o Aviation Gin gan y dyn ei hun, Ryan Reynolds,” meddai mewn neges fideo ar ei chyfri Twitter.

“Bydd y Saith Seren yn gwerthu o leiaf un o’r poteli mewn ocsiwn i godi arian at elusen leol.

“Mae wedi bod yn wythnos anhygoel i’r clwb, ond mae hefyd wedi bod yn anhygoel i’r dref. Felly iechyd da!”

Atebodd Ryan Reynolds drwy ddweud y byddai’n ymuno a nhw’n fuan yn y Saith Seren.

Darllen mwy: