Mae trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi’i gohirio ar ôl i un o negodwyr yr Undeb Ewropeaidd brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mae’r ddwy ochr wedi bod yn cyfarfod ym Mrwsel gydag amser yn brin i ddod i gytundeb cyn i drefniadau pontio Brexit ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn.

Cyhoeddodd Michel Barnier fod aelod o’i dîm wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

“Rydym wedi penderfynu gohirio’r trafodaethau am gyfnod byr,” meddai.

“Bydd y timau’n parhau â’u gwaith, gan ddilyn yr holl ganllawiau.”

Dywedodd yr Arglwydd Frost ei fod mewn cysylltiad agos â Michel Barnier am y sefyllfa.

“Iechyd ein timau sy’n dod gyntaf,” meddai a diolchodd i’r Comisiwn Ewropeaidd am eu cymorth a’u cefnogaeth,” meddai.

Nid yw’n glir a fydd yn rhaid i aelodau’r tîm negodi hunan-ynysu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Mae’r comisiwn wedi ein hysbysu bod un o’i swyddogion wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

“Rydym yn trafod oblygiadau hyn gyda nhw [yr Undeb Ewropeaidd]

“Byddwn yn parhau i weithredu, yn unol â chanllawiau er mwyn sicrhau iechyd a lles ein timau.”

Cyfnod allweddol

Daw hyn mewn cyfnod allweddol yn y trafodaethau.

Bydd unrhyw gytundeb yn gorfod cael ei gymeradwyo gan aelodau’r Undeb Ewropeaidd, y Senedd Ewropeaidd a Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n golygu fod amser yn brin.

Mae’n debyg bod y materion sydd eto i’w datrys yn cynnwys hawliau pysgota, sut y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei lywodraethu, yn ogystal â mesurau sydd â’r nod o atal cystadleuaeth annheg ar faterion gan gynnwys cymorthdaliadau’r wladwriaeth.

Mae’r Arglwydd Frost wedi dweud bod “ychydig o gynnydd wedi cael ei wneud yn y dyddiau diwethaf” ond “efallai na fyddwn yn llwyddo” i sicrhau cytundeb.

Darllen mwy