Mae cwmni ‘Academy of Robotics’ o Aberystwyth wedi cyfuno technoleg deallusrwydd artiffisial a roboteg i ddatblygu cerbyd hunan-yrru, sy’n gallu danfon a didoli parseli yn awtomatig.
Mae’r cerbyd, a elwir yn Kar-go, wedi cwblhau ei ddanfoniad digyswllt cyntaf yr wythnos hon.
Cafodd y cwmni ei sefydlu ar gampws Prifysgol Aberystwyth tair blynedd yn ôl gan fyfyriwr, William Sachiti, ar y cyd â’i ddarlithydd, Dr Elio Tuci, a’i gyd-fyfyriwr, Dr Aparajit Naraya.
Gwnaed hyn gyda chymorth ariannol o £10,000 drwy Wobr Cais Dyfeisio Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd yr arian ei ddefnyddio i greu prototeip cychwynnol, sydd wedi denu bron i £500,000 gan fuddsoddwyr.
Gwreiddiau’r cwmni yn Aber
“Penderfynais ddod i Aber i astudio gyda’r nod o fod yn arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial a roboteg,” meddai sylfaenydd a prif weithredwr y cwmni, William Sachiti.
“Roeddwn i’n gwybod o’r cychwyn fy mod i eisiau dysgu digon i ddechrau cwmni ceir hunan-yrru fy hun.”
“Yn y Brifysgol, nes i gyfarfod myfyrwyr PhD ac Uwch Ddarlithwyr oedd wedi bod yn ymchwilio i’r maes ers rhai blynyddoedd.”
“Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn cydweithio ar y syniad oedd gen i, a heddiw, mae nifer o raddedigion Aber yn rhan o’r tîm.”
Gwobr ariannol y Brifysgol yn allweddol i lwyddiant y cwmni
Roedd gwobr £10,000, sydd ar gael yn flynyddol i fyfyrwyr Mentrus Prifysgol Aberystwyth, yn allweddol i lwyddiant y cwmni, yn ôl William Sachiti.
“Rhoddodd hynny ddigon o arian i mi adeiladu prototeip cychwynnol er mwyn dangos i fuddsoddwyr,” meddai.
“Roedd y prototeip cynnar hwn yn allweddol – wrth alluogi fi brofi i bobl bod yr hyn oedd gen i mewn golwg, yn rhywbeth gwir.”
“O hynny, nes i lwyddo i ddenu bron i hanner miliwn o bunnoedd gan fuddsoddwyr.”
Mecanwaith Kar-go
Yn debyg i gwmnïau tacsis, mae modd dilyn lleoliad y cerbyd drwy ap.
Mae modd i dderbynnydd y parsel agor y car gyda’i ffon gan alluogi i’r system ryddhau’r parsel perthnasol. Yna, mae’r cerbyd yn aildrefnu’r parseli ar gyfer y danfoniad nesaf.
Mae’n rhedeg ar gost o 1.2c y filltir ac yn cyrraedd cyflymder o 60 milltir yr awr.
Mae’r cerbyd wedi ei amgylchynu a chamerâu, sy’n galluogi i’r car ddod i stop os oes gwrthrych yn dod yn rhy agos.
Defnyddio roboteg i bwrpas
“Dyma beiriant hynod gymhleth, sy’n cyflawni tasgau syml,” meddai’r sylfaenydd.
“I mi, dyna sy’n gwneud deallusrwydd artiffisial da.”
Mae’r cwmni wedi dechrau gwneud danfoniad digyswllt yr wythnos hon i gartrefi gofal yn Llundain.
“Rydym yn bwriadu ehangu a gosod mwy o’r ceir lle mae eu hangen fwyaf,” eglurodd.
“Dim y bwriad yw cael gwared â gyrwyr yn gyfan gwbl – ond rhoi ceir roboteg mewn llefydd ble mae eu hangen fwyaf a defnyddio roboteg a deallusrwydd artiffisial i bwrpas da.”