Swyddi fydd yn cael y flaenoriaeth wrth i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, gyhoeddi ei Adolygiad Gwariant heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 25).
Hwn fydd yr Adolygiad cyntaf ers dechrau ymlediad y coronafeirws, sydd wedi cael effaith ddifrifol ar yr economi eleni.
Fe fydd e’n lansio rhaglen ‘Restart’, sy’n werth £2.9bn, er mwyn adfywio’r economi a helpu mwy na miliwn o bobol ddi-waith ddychwelyd i’r gweithle yn dilyn y pandemig.
Er bod arweinwyr busnes yn croesawu’r newyddion, mae disgwyl i undebau llafur ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus.
Mae disgwyl i’r Canghellor gael ei feirniadu ymhellach am dorri cymorth rhyngwladol, wrth oedi’r ymrwymiad i wario 0.7% o incwm Prydain ar ddatblygiad tramor.
Ond mae’n mynnu nad yw’n paratoi ar gyfer mesurau llymder fel o’r blaen, ac y bydd yn parhau i gefnogi’r economi.
Bydd addewid o £1.4bn hefyd i gynyddu capasiti’r Ganolfan Waith, a phecyn sgiliau gwerth £375m.
O ganlyniad i’r feirws, bydd rhai adrannau ond yn derbyn sicrwydd gwariant am flwyddyn yn hytrach na’r cytundeb arferol o sawl blwyddyn ar y tro, ond mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi cael sicrwydd am bedair blynedd gwerth mwy na £7bn i weddnewid y Lluoedd Arfog.
Mae disgwyl hefyd i’r Gwasanaeth Iechyd dderbyn £3bn, gan gynnwys £1bn i fynd i’r afael ag oedi yn ystod y pandemig.
Bydd Strategaeth Isadeiledd Genedlaethol yn golygu neilltuo £1.6bn ar gyfer y ffyrdd.
Y sector cyhoeddus
Ond y cynlluniau ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n debygol o hawlio’r sylw mwyaf.
Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod dyledion y sector yn fwy na £2 triliwn am y tro cyntaf erioed, gan fynd y tu hwnt i 100% ar incwm cenedlaethol.
Bydd cap neu rewi ar gyflogau mwy na phedair miliwn o weithwyr y sector, ond mae disgwyl i feddygon a nyrsys gael eu heithrio, tra bod disgwyl hefyd i’r cynnydd o 5% yn y cyflog byw cenedlaethol gael ei ddileu.
Mae’r undebau yn debygol o ymteb yn chwyrn, ond mae Rishi Sunak yn barod i ddadlau mai’r sector preifat sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y pandemig.
Ymateb
Ar drothwy’r Adolygiad, mae Rishi Sunak yn dweud mai ei “brif flaenoriaeth yw gwarchod swyddi a bywoliaethau ledled y Deyrnas Unedig”.
“Bydd yr Adolygiad Gwariant hwn yn sicrhau bod cannoedd o filoedd o swyddi’n cael eu cefnogi a’u gwarchod yn ystod cyfnod difrifol yr argyfwng hwn a thu hwnt gyda phecyn o sawl biliwn o fuddsoddiad i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl heb obaith na chyfleoedd,” meddai.
Ond mae Anneliese Dodds, llefarydd cyllid Llafur, yn dweud bod gwledydd Prydain yn wynebu “argyfwng swyddi” o ganlyniad i “benderfyniadau anghyfrifol” a cham-reolaeth ariannol y Ceidwadwyr.
“Fe wnaethon nhw glapio ar gyfer gweithwyr allweddol ond nawr maen nhw’n rhewi eu cyflogau, ac yn ceisio dileu cynnydd yn yr isafswm cyflog ar gyfer y sector preifat,” meddai.
“Bydd hynny’n bwrw pocedi pobol ac yn tynnu gwariant allan o’n busnesau bach a’r stryd fawr pan fo nifer eisoes ar eu gliniau.
“Mae angen sylw diflino i swyddi a thwf er mwyn codi’r economi’n ôl ar ei thraed.”