Mae Joe Biden, darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn pwysleisio pwysigrwydd cadw ffin Iwerddon ar agor ar ôl Brexit.

Bu’n trafod Brexit gyda Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn gynharach ym mis Tachwedd yn ystod un o’i alwadau ffôn cyntaf i arweinwyr eraill y byd yn ddarpar Arlywydd, gan ei rybuddio na ddylai Brexit beryglu proses heddwch Gogledd Iwerddon.

Ac mae e eisoes wedi dweud bod unrhyw gytundeb fasnach rhwng y Deyrnas Unedig â’r Unol Daleithiau yn ddibynnol ar barchu cytundeb Gwener y Groglith.

Ailddechreuodd trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar gytundeb masnach ddydd Llun (Tachwedd 23), yn dilyn trafodaethau technegol dros y penwythnos.

Wrth siarad â gohebwyr yn Wilmington yn nhalaith Delaware ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 24), dywedodd Joe Biden nad yw am weld “ffin warchodedig”.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr – rydyn ni wedi gweithio’n rhy hir i gael Iwerddon i weithio allan, a siaradais â phrif weinidog Prydain, siaradais â’r Taoiseach, siaradais ag eraill, siaradais â’r Ffrancwyr,” meddai.

“Dydy’r syniad o gael ffin rhwng y gogledd a’r de unwaith eto ddim yn opsiwn, mae’n rhaid i ni gadw’r ffin ar agor.”

Mae’n debyg bod y materion sydd eto i’w datrys yn cynnwys hawliau pysgota, sut y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei lywodraethu, yn ogystal â mesurau sydd â’r nod o atal cystadleuaeth annheg ar faterion gan gynnwys cymorthdaliadau’r wladwriaeth.