Mae Gweinidogion o Gymru a’r Alban wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barchu datganoli a chadw at ei hymrwymiad i ddarparu’r un faint o gyllid a’r Undeb Ewropeaidd.

Hyd yma dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gwneud unrhyw drefniadau ymarferol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Cyffredin, er y bydd cyllid Ewropeaidd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Mae Jeremy Miles o Lywodraeth Cymru a Kate Forbes o Lywodraeth yr Alban wedi rhannu eu rhwystredigaeth ac wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “wireddu ei haddewidion”.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adolygu eu gwariant yn ddiweddarach heddiw, (dydd Mawrth, Tachwedd 24).

‘Diffyg tryloywder a chydweithio’

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wireddu addewidion a wnaed droeon na fyddai Brexit yn arwain at golli unrhyw gyllid ac y byddai’r setliad datganoli yn cael ei barchu,” meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.

“Mae ein cynigion wedi’u datblygu dros dair blynedd gyda rhanddeiliaid o lywodraeth leol, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, y sector preifat a’r trydydd sector.

“Cawsant eu llunio gyda chyngor arbenigol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac maent wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.

“O ganlyniad, mae gennym Fframwaith i ailddechrau rhaglenni buddsoddi yn gynnar y flwyddyn nesaf – cyhyd â bod Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn cadw at eu hymrwymiadau.

“Rhaid i’r diffyg tryloywder a chydweithio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma ddod i ben nawr, fel y bydd Cymru yn cael yr eglurder sydd ei angen arni a’r ymrwymiad i weithio drwy Lywodraeth Cymru, yn unol â’r setliad datganoli.”