Mae cwmni technoleg o Gymru yn bwriadu adeiladu cyfleuster newydd yn yr Unol Daleithiau.

Bydd cwmni DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr yn creu 1,000 o swyddi newydd ym Morgantown yng Ngorllewin Virginia.

Mae’r cwmni yn cydweithio â Blue Rock Manufacturing i greu’r cyfleuster newydd fydd yn datblygu technoleg ynni glân.

Yn ôl Tony Miles, prif weithredwr y cwmni, bydd y cynllun gwerth miliynau o ddoleri yn gallu defnyddio glo a deunyddiau organig eraill i wneud “cynyrch ynni glân a chynaliadwy” sy’n cael ei ddefnyddio mewn batris.

Mae Jim Justice, Llywodraethwr Gorllewin Virginia, wedi croesawu’r newyddion ac yn edrych ymlaen i ehangu ar y cysylltiadau â Chymru.

“Mae Gorllewin Virginia a Chymru yn gymunedau glofaol balch,” meddai.