Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau y bydd y mwyafrif o ysgolion yng ngogledd y sir yn ailagor ar ôl cael eu gorfodi i gau ddoe (dydd Llun, Tachwedd 23) oherwydd twf mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal.
Bydd Ysgol y Preseli, Ysgol y Frenni, Ysgol Eglwyswrw, Ysgol Llandudoch ac Ysgol Clydau yn ail agor.
Ond fe fydd Ysgol Cilgerran yn parhau ar gau yn rhannol ar ôl i ddau ddosbarth ddod i gysylltiad ag achosion o’r coronafeirws.
Fodd bynnag, bydd saith ysgol yn ardal Aberteifi yn ne Ceredigion yn parhau ar gau tan Ragfyr 7.
Daw hyn ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion rybuddio pobol i barhau i ddilyn y cyfyngiadau coronafeirws dros y penwythnos, wrth i nifer yr achosion godi i’w lefel uchaf ers dechrau’r pandemig.
Mewn llythyr at rieni, dywedodd Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion, fod Cyngor Sir Ceredigion yn bryderus am ymlediad y coronafeirws yn ardal Aberteifi.
“Mae nifer sylweddol o achosion positif diweddar wedi arwain at nifer uchel iawn o bobol yn cael eu nodi fel cyswllt i achos positif,” meddai.
“Mae tystiolaeth lethol fod cyflymder a lledaeniad y feirws yn ardal Aberteifi yn golygu bod angen gweithredu ar unwaith.”